Caerdydd: Gwagio 50 o dai ar ôl darganfod bomiau o'r Ail Ryfel Byd mewn gardd
Mae pobl wedi gorfod gadael eu tai yng Nghaerdydd ar ôl i fom gael ei ddarganfod mewn gardd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Stryd Plassey ym Mhenarth ychydig cyn 13:30 ddydd Mawrth wedi i ddyfais oedd heb ffrwydro cael ei ddarganfod yng ngardd un o'r tai.
Roedd cordon wedi ei osod a chafodd trigolion 50 o dai ar y stryd eu symud gan yr heddlu tra bod arbenigwyr yn archwilio'r ddyfais a sicrhau ei fod yn ddiogel.
Erbyn nos Fawrth cafodd y ddyfais ei symud yn ddiogel gan Arbenigwyr Gwaredu Bomiau.
Roedden nhw wedi darganfod mai bomiau tanllyd (incendiary) Almaeneg o'r Ail Ryfel Byd oedden nhw.
Cafodd y cordon ei godi gan yr heddlu ac fe gafodd trigolion y stryd ddychwelyd i'w tai.