'Angen adolygiad o fodel ariannu sefydliadau addysg uwch Cymru'

Newyddion S4C

'Angen adolygiad o fodel ariannu sefydliadau addysg uwch Cymru'

Mae angen adolygiad o fodel ariannu sefydliadau addysg uwch Cymru yn ôl Cadeirydd newydd Prifysgolion Cymru.

Yn ôl yr Athro Elwen Evans KC sydd newydd ddechrau yn y rôl mae “heriau mawr” yn wynebu prifysgolion ac y byddai adolygiad yn “fanteisiol iawn”.

Mae’r rhan fwyaf o gyllid prifysgolion ar hyn o bryd yn dod o ffioedd myfyrwyr.

Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac yn y DU. 

Mae Prifysgolion Cymru yn gorff sy’n cynrychioli’r 9 prifysgol sydd yng Nghymru gan ymgysylltu a lobio ar eu rhan.

Mae’r Athro Elwen Evans KC hefyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn ei chyfweliad cyntaf, dywedodd wrth Newyddion S4C bod yr heriau i’r sefydliadau addysg uwch yn fawr.

“Mae’n her sy’n ehangach na chymru ond mae’n her fawr iawn yma," meddai.

“Hefyd pan da ni’n son am yr her mae rhaid bod ni’n edrych ar y dyfodol ac os da ni’n barod i neud newidiadau mae ‘na gyfleoedd arbennig i’r sector”.

'Cynyddu'

Ond wrth drafod y model ariannu bresennol dweud mae’r Athro Evans bod angen edrych yn fanwl ar y drefn.

“Dwi yn meddwl...ma’n bwysig bod ni’n edyrch yn fanwl ar y ffordd mae’r sector yn cael ei ariannu," meddai.

“Dwi’n meddwl fasa adolygiad yn beth fanteisiol iawn i bob rhan o’r sector, i’r Llywodraeth, Medr.. i ddeall be ydi impact mae’r ffordd o ariannu ar hyn o bryd yn ei gael ar y sector."

Eisoes eleni mae nifer o brifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi cyfres o arbedion a thoriadau i gyllidebau a staff.

Wrth ymateb i sylwadau Yr Athro Evans dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi darparu £28.5m ychwanegol mewn cyllid grant i brifysgolion yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddod â chyfanswm y cyllid grant i dros £200m. 

"Rydym hefyd wedi cynyddu ffioedd dysgu dros ddwy flynedd yn olynol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.