Teyrnged teulu i dad 'arbennig' a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar yn y Rhondda

Michael Griffiths

Mae teulu tad a fu farw ar ôl cael ei daro gan gar mewn tref yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Michael Griffiths yn 45 oed ar 22 Hydref ar ôl iddo gael ei daro gan gar wrth gerdded ar Heol-y-Sarn yn Llantrisant.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r lleoliad am 17.50 y noson honno i ymateb i'r digwyddiad y tu allan i fynedfa'r Bathdy Brenhinol.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Mr Griffiths, a oedd yn blastrwr lleol, yn y fan a'r lle. 

Mae ei deulu bellach wedi rhoi teyrnged iddo, gan ddweud ei fod yn berson "caredig, hael a llawn bywyd".

"Roedd Michael yn fab annwyl, yn dad arbennig, yn frawd mawr heb ei ail i'w dri brawd a chwaer gariadus, ac yn ffrind ffyddlon i nifer," meddai'r teulu.

"Rydym i gyd yn drist iawn ein bod wedi colli Michael mewn ffordd mor drasig, ond rydym nawr eisiau canolbwyntio ar ddathlu’r person anhygoel ydoedd.

"Roedd gan Michael ymdeimlad cryf o gymeriad - caredig, hael a llawn bywyd. Roedd ei bersonoliaeth cheeky ac, ar adegau, ddireidus yn disgleirio drwy bopeth a wnaeth. Byddwn i gyd yn cofio straeon doniol am anturiaethau, diwrnodau allan ac atgofion gyda Michael."

Fe aeth y teulu ymlaen i ddweud ei fod hapusaf yn yr awyr agored.

"Rydym yn cael cysur o ddychmygu fod Michael mewn heddwch nawr, yn rhywle uchel ar fynydd gyda’i gŵn annwyl wrth ei ochr," meddai'r teulu.

"Bydd yn parhau i fyw yn ein hatgofion, yn y straeon yr ydym yn eu hadrodd, ac yn fwy na hynny, trwy ei deulu a’i fab."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.