
Lansio prosiect i 'ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gefndiroedd lleiafrifol'
Mae prosiect newydd yn ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched ifanc o gefndiroedd lleiafrifol yng Nghymru i chwarae pêl-droed yn dilyn llwyddiant hanesyddol y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd Euro 2025.
Mae Cymru Unleashed yn brosiect sy'n ceisio sicrhau fod gwaddol i lwyddiant hanesyddol Cymru ar ôl cyrraedd Euro 2025.
Bwriad y prosiect ydy cynnig rhaglen o ddigwyddiadau byw a phrofiadau digidol ar draws y wlad i adeiladu ar lwyddiant a gwaddol menywod Cymru drwy gyrraedd prif bencampwriaeth am y tro cyntaf.
Mae eu prosiectau llawr gwlad yn ceisio sicrhau eu bod yn parhau mewn cysylltiad â chymunedau, gyda phwyslais arbennig ar leisiau sy'n cael eu tan-gynrychioli a phobl sydd â mynediad cyfyngedig at gyfleoedd chwaraeon.
Mae amcanion y prosiect yn cynnwys cynyddu gweithgaredd menywod mewn chwaraeon, gyda ffocws ar y rhai mewn cymunedau sy'n cael eu tan-gynrychioli.

Dywedodd curadur Cymru Unleashed Osamagbe Izevbigie wrth Newyddion S4C: "Mae Cymru Unleashed yn adlewyrchiad o bwy ydym ni - balch, creadigol ac wedi ein gwreiddio yn ein cymunedau. Mae'n briosect am y bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn dweud eu straeon drwy bêl-dored, celf a chyfryngau digidol - gan ddangos eu bod yn perthyn wrth galon diwylliant Cymru.
"Fe gafodd y prosiect ei lansio yn dilyn yr angen i sicrhau fod yna fwy o amrywiaeth mewn chwaraeon yng Nghymru ac i weld merched ifanc yn benodol rhwng 12 ac 18 i anelu i chwarae pêl-droed ar lefel genedlaethol.
Ychwanegodd Mr Izevbigie ei fod yn gobeithio y bydd y priosect yn ysbrydoli y genhedlaeth nesaf.
"Rydym ni eisiau estyn allan i'r bobl ifanc a'r cymunedau amrywiol. Y gôl mewn gwirionedd ydy ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc o gymunedau du, asiaidd a lleiafrifol i gael breuddwydio bod yn rhan o bêl-droed yng Nghymru ac mewn chwaraeon yn gyffredinol," meddai.
"O ran llwyddiant menywod Cymru i gyrraedd Euro 2025, i ni fel Cymru Unleashed, y nod ydy sut fedrwn ni wneud y mwyaf o'r llwyddiant yma i greu gwaddol."

Mae rhai o uchafbwyntiau'r prosiect hyd yma yn cynnwys 10 gweithdy cymunedol a phencampwriaethau llai yn Nhre-biwt, Grangetown a Threfforest, i annog merched ifanc i chwarae pêl-droed.
Mae ymgyrch ddwyieithog ddigidol wedi amlygu treftadaeth chwaraeon Cymru, gan gyrraedd cynulleidfa ar-lein o dros 100,000.
Mae angen sicrhau fod merched ifanc o gefndiroedd lleiafrifol yn gweld cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf fel cyfle posib a realistig, yn ôl Mr Izevbigie.
"Rydym ni'n gweithio gydag ysgolion i addysgu merched am lwybrau gwahanol fel nad ydy'r syniad yn teimlo yn bell-gyrhaeddol," meddai.
"P'un ai os ydyn ni'n ei hoffi ai peidio, os ydym ni'n edrych ar y tîm menywod cenedlaethol, mae ceisio ysbrydoli merched ifanc o gefndiroedd lleiafrifol eu bod nhw'n gallu cynrychioli Cymru un diwrnod ar y lefel uchaf - mae hynny yn teimlo ychydig yn bellgyrhaeddol iddyn nhw gan nad ydyn nhw'n gweld eu hunain yno, felly mae rhywbeth angen ei wneud.
"Dyna ydy'r gôl i ni, a rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys hyn. O ran Euro 2025 - dyma ddylai fod y dechrau, a'r hwb sydd ei angen a'r tân newydd.
"Mae'n bwysig oherwydd mae'n swnio yn ofnadwy o drist, ond mae'r gallu i freuddwydio mor fawr â hynny yn gallu bod yn fraint - dydy nifer o bobl ddim hyd yn oed yn meddwl ei fod yn bosib cyrraedd yno oherwydd iddyn nhw, mae'n fwy neu lai amhosib.