'Dim byd maleisus’ mewn adroddiadau o blatiau adnabod ceir yn cael eu dwyn o safle’r Eisteddfod
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod wedi dweud mai ei dealltwriaeth hi yw nad oes “dim byd maleisus” mewn adroddiadau am ddwyn platiau adnabod rhif cerbydau o safle’r Eisteddfod.
Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am blatiau rhif cerbydau yn cael eu dwyn dros y penwythnos.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar gyrion Wrecsam rhwng 2-9 Awst.
“Mi oedd yna ychydig o achosion lle’r oedd pobl yn dweud bod ‘na dri neu bedwar o rifau ceir wedi diflannu o flaen car,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses.
“Roedd yr heddlu wedi mynd, roedden nhw wedi dod o hyd i un. Roedden nhw’n dweud nad oedden nhw’n credu fod yna ddim byd maleisus - falle mai ryw blant neu rywbeth fel ‘na.
“Felly oedd o’m yn rhywbeth i boeni yn ei gylch.”
Ddydd Llun dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am bedwar o blatiau rhif yn cael eu dwyn o bedwar o gerbydau ddydd Sadwrn a Sul.
“Mae ymchwiliadau yn parhau a hoffwn ofyn i unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus gysylltu â ni gan ddyfynnu cyfeirnod C119338,” meddai'r llu.