Ymosodwr Cymru Kieffer Moore yn arwyddo i Wrecsam

Ymosodwr Cymru Kieffer Moore yn arwyddo i Wrecsam

Mae ymosodwr Cymru Kieffer Moore wedi arwyddo i Wrecsam.

Cyhoeddodd y clwb ddydd Iau bod y chwaraewr 32 oed wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Moore yw'r diweddaraf o chwaraewyr sydd â phrofiad o chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr i ymuno â Wrecsam wrth iddyn nhw baratoi am eu tymor yn y Bencampwriaeth.

Ers cychwyn yr haf mae'r amddiffynnwr Conor Coady a golwr Cymru Danny Ward wedi arwyddo i'r Dreigiau.

Mae Moore yn symud i Wrecsam o Sheffield United, a wnaeth gyrraedd rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth y llynedd.

Dywedodd ei fod "mor hapus" i arwyddo i'r clwb.

"Dwi mor hapus i fod yma a dwi methu aros i gychwyn," meddai.

"Dwi eisiau bod yr arweinydd profiadol a chynnig rhywbeth i'r tîm.

"Fy agwedd at weithio'n galed yw un o fy nghryfderau a dwi eisiau bod yn rhywun all help datblygu’r garfan."

Ychwanegodd rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson bod Moore yn "chwaraewr rhyngwladol profiadol" a'i fod yn "edrych ymlaen at gydweithio" gydag ymosodwr Cymru.

Bydd Wrecsam yn cychwyn eu tymor oddi cartref yn erbyn Southampton ddydd Sadwrn.

Prynu Y Graig

Fe wnaeth y Dreigiau gyhoeddi pryniant o fath wahanol yn ddiweddarach ddydd Mawrth, gan gadarnhau eu bod wedi prynu stadiwm Y Garreg, yn Rhosymedre, gan Glwb Pêl-droed Derwyddon Cefn.

Yn gartref hanesyddol i'r Derwyddon, mae'r Graig hefyd wedi bod yn gartref i dîm merched Wrecsam ers 2023.

Gyda'r tîm bellach yn led broffesiynol ac yn cystadlu yn haen uchaf pêl-droed merched Cymru, sef yr Adran Premier, mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cadarnhau eu bod nhw wedi prynu'r stadiwm.

Bydd y stadiwm yn cael ei ddefnyddio fel canolfan hyfforddi a lleoliad gemau cartref merched Wrecsam, tra y bydd Derwyddon Cefn, sydd bellach yn cystadlu yn ail haen Cynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru, yn parhau i chwarae gemau a hyfforddi yno yn ogystal.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Clwb Pêl-droed Wrecsam, Michael Williamson fod prynu'r Graig yn "garreg filltir arwyddocaol" i'r clwb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.