Peredur Glyn yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn y Brifwyl
Peredur Glyn yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn Wrecsam brynhawn dydd Mawrth.
Y dasg oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y beirniaid eleni oedd Mari Emlyn, Haf Llewelyn ac Alun Davies, ac fe gafwyd 14 o ymgeiswyr.
Wrth drafod y nofel fuddugol, 'Anfarwol', dywedodd Mari Emlyn: “Gwyddwn fy mod mewn dwylo diogel o’r cychwyn yng nghwmni’r llenor penigamp hwn er nad dyma’r math o nofel sydd fel arfer at fy nant.
“Strwythurir y nofel yn glyfar iawn fel drama glasurol Shakespearaidd gyda’i phump act, er bod yr awdur hwn, diolch i’r drefn, yn gwrthod y demtasiwn i gynnwys y dénouement, gan gyfiawnhau hynny ar y diwedd drwy ddweud, ‘Nid yw bywyd go-iawn yn dwt.’
“Mae’r nofel yn daith drwy amser gan rychwantu bron i ddwy ganrif ac mae’n batrwm o sut i ddefnyddio stôr eithriadol o ymchwil i greu nofel hanesyddol ffantasïol heb i’r ymchwil hwnnw lyncu’r stori...
"Mae Ozymandias yn llwyr haeddu Gwobr Goffa Daniel Owen.”
Nofelydd ac academydd
Daw Peredur Glyn Cwyfan Webb-Davies o ganol Ynys Môn ac mae'n byw ym Mhorthaethwy gyda’i deulu.
Enillodd ei daid, y bardd a’r llenor T Glynne Davies, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951.
Mae’n aelod o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog ac mae’n hoff o chwarae a chasglu gemau bwrdd, fideo a chwarae rôl yn ei amser sbâr.
Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, ble torrodd ei gŵys fel awdur, cyn ennill graddau Bagloriaeth ac MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt mewn Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg.
Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.
Mae wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros 15 mlynedd. Mae hefyd yn nofelydd.
Bellach mae’n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg a’i siaradwyr, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid cod.