Rhys Meirion yn rhannu ei brofiad o ganser y coluddyn gan annog eraill i gael eu sgrinio

Rhys Meirion

Mae'r seren opera Rhys Meirion, a dderbyniodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn gynharach eleni, yn annog eraill i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio.

Derbyniodd brawf sgrinio'r coluddyn trwy'r post cyn ei roi i'r naill ochr am ychydig wythnosau, ar ôl profi symptomau yn cynnwys gwaed yn ei garthion

Yn y pen draw, fe gymerodd y prawf ac fe gafodd ei gyfeirio am golonosgopi ym mis Chwefror 2025. 

Fe wnaeth meddygon ddarganfod tiwmor yn ystod y broses hon.

Yn dilyn ei ddiagnosis, derbyniodd Rhys Meirion lawdriniaeth robotig a barodd bron i wyth awr yn Ysbyty Gwynedd dan ofal y llawfeddyg Mr Steve Dixon ym mis Mai eleni

Mae'n ddiolchgar iawn am y gofal a gafodd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Image
Rhys Meirion

Dywedodd: "O dîm y theatr i'r staff gwych ar Ward Tegid, roeddwn yn teimlo'n hollol ddiogel ac fy mod i'n derbyn gofal da. Gwnaethant ddod â phroffesiynoldeb a hyd yn oed ychydig o hwyl i'm hadferiad, a oedd yn fodd o wella fy hwyliau," meddai.

Yn dilyn llawdriniaeth, clywodd nad oedd angen unrhyw driniaeth bellach gan fod ei ganser wedi'i ganfod yn gynnar. 

Bydd yn parhau i gael ei fonitro dros y pum mlynedd nesaf.

'Gwerthfawr'

Wrth edrych yn ôl ar ei brofiad, dywedodd: "Mae'r daith hon wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor werthfawr yw bywyd. Yn rhyfeddol, roeddwn yn gallu perfformio yn angladd Mike Peters dim ond 10 diwrnod ar ôl fy llawdriniaeth, ac rydw i wir yn credu bod y llawdriniaeth robotig wedi bod yn rhan enfawr o'm hadferiad.

"Rydw i'n hynod ddiolchgar i'r timau gwych yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam - gwnaeth eu gofal, eu proffesiynoldeb a'u trugaredd fyd o wahaniaeth ar adeg anodd iawn.

"O adeg cael fy niagnosis i'r cymorth a dderbyniais yn ystod fy nhriniaeth trwyddi draw, roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i mewn dwylo diogel iawn."

Image
Rhys Meirion

Mae Rhys Meirion bellach yn annog pawb sy'n gymwys i gael prawf sgrinio'r coluddyn - a rhaglenni sgrinio iechyd eraill fel profion PSA, profion ceg y groth, a mamogramau - i gymryd rhan.

"Gwnaeth y prawf yma achub fy mywyd i. Fe wnes i ei ohirio yn y lle cyntaf, ond byddwn yn annog unrhyw un sy'n derbyn pecyn sgrinio i beidio â'i anwybyddu. 

"Mae'r profion syml hyn yno i ganfod problemau'n gynnar, yn aml cyn i unrhyw symptomau ymddangos. Maen nhw wir yn gallu achub bywydau," ychwanegodd.

Pwysigrwydd sgrinio

Gwnaeth Mr Steve Dixon, sy'n Llawfeddyg y Colon a'r Rhefr, ddiolch i Rhys Meirion am rannu ei stori.

Dywedodd: "Mae stori Rhys yn dangos pa mor hollbwysig yw sgrinio. Gall darganfod tiwmorau'n gynnar achub bywydau, ond nid yw pawb yr un mor ffodus os byddant yn gohirio gofyn am help.

"Gwnaeth llawdriniaeth robotig gyflawni rôl allweddol yn ei adferiad hefyd - mae'n caniatáu i ni berfformio gweithredoedd hynod fanwl gydag archoll llai o faint, sydd yn aml yn golygu llai o boen, llai o gymhlethdodau, a modd o ddychwelyd at fywyd arferol yn gynt o lawer."

Ychwanegodd Ceri Newell, sy'n Fetron Lawfeddygol: "Mae Rhys yn gwneud yn eithriadol yn dda, ac roeddem ni i gyd mor falch pan ymwelodd â ni yn ddiweddar i ddiolch i staff y ward. Mae ei adborth positif yn golygu llawer i'r tîm ac rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o'i daith."

Lluniau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.