Talwrn y Gêirdd: 'Hiwmor yn helpu i ymdopi gyda phryderon'
Talwrn y Gêirdd: 'Hiwmor yn helpu i ymdopi gyda phryderon'
Mae'r comedïwr drag adnabyddus Maggi Noggi wedi dweud bod hiwmor wedi ei helpu i "ymdopi efo pryderon" wrth iddo dyfu i fyny fel bachgen yn y gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
Daw sylwadau Kristoffer Hughes wedi iddo arwain digwyddiad newydd ar gyfer y gymuned LHDTC+ yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ddydd Mawrth, fe gafodd Talwrn y Gêirdd ei gynnal am y tro cyntaf yn y Babell Lên a hynny o dan ofal Llyfrau Lliwgar a Gareth Evans-Jones.
Fel rhan o'r digwyddiad, fe wnaeth dau dîm fynd benben â'i gilydd: Ceinciau Ceridwen, sef Lowri Hedd Vaughan, Marged Elen Wiliam a Brennig Davies, yn erbyn Stranciau Strempan, sef Lois Gwenllian, Leo Drayton a Melda Lois.
Dywedodd Mr Hughes, sydd hefyd wedi gweithio fel technegydd patholegol yn rhai o farwdai mwyaf y DU, bod cymryd rhan yn y digwyddiad yn "fraint".
"Hwn oedd y tro cyntaf erioed i ni gynnal Talwrn y Gêirdd yma yn y Babell Lên ag oedd hi’n fraint, yn anrhyddedd, neu’n drasiedi efallai, bo' nhw wedi gofyn i fi fod dim y Meuryn ond y Gêuryn, ond neshi wir fwynhau," meddai wrth Newyddion S4C.
"I fi, mae hiwmor yn rwbath pwysig iawn i helpu fi i ymdopi efo’r pryderon sydd gyna fi yn fy mywyd ac oedd gyna fi yn fy mywyd yn tyfu fyny fel rhywun yn y gymuned LHDTC+.
"Mae hiwmor yn helpu chi i drawsnewid y pryderon yna yn rhywbeth mwy llawennus a mewn ffordd 'da ni’n defnyddio fo fel rhyw fath o tool i helpu ni i gerdded trwy bywyd ac efallai deflectio 'chydig bach o’r poen 'da ni’n ei deimlo.
"Os fysa rhywbeth fel hyn, rhywbeth fel Mas ar y Maes, neu Paned o Gê, wedi bodoli pan o'n i’n fachgen ifanc yn dod i’r Eisteddfod Genedlaethol, dw i’n meddwl 'sa hynny wedi helpu gymaint.
"A dw i'n teimlo bod o’n gyfrifoldeb i fi ac aelodau eraill o LHDTC bo' ni yn cynrychioli’r gymuned yna ac yn cael ein gweld yma ar faes yr Eisteddfod."
Ychwanegodd: "Mae’r Eisteddfod yn llawn amrywiaeth a 'da ni’n rhan o’r enfys lliwgar yna, ac mae’r ffaith bo' ni wedi cael llwyfan yma yn y Babell Lên sydd yn lejand yn ei hun yn rhywbeth anfarwol a rhywbeth pwysig iawn hefyd."
'Parhau i gwffio'
Yn ôl Mr Hughes, mae'n rhaid "cario ymlaen i gwffio" dros hawliau'r gymuned LHDTC+.
"Dw i’n gweld dipyn o fygwth i’r gymuned LHDTC, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau," meddai.
"Fydda i yn yr Unol Daleithiau lot, a dw i'n meddwl bo' ni’n eitha lwcus yma ym Mhrydain bo' gyna ni'r rhyddid i fod pwy yda ni.
"Ond allwn ni ddim eistedd ar ein penôlau ni, mae'n rhaid i ni gario ymlaen i gwffio, achos mae’r hawliau sydd ganddo ni yn eitha newydd.
"Dw i’n cofio cyfnod lle'r oedd yr hawliau yna ddim mor amlwg, felly mae pethau fel hyn yn digwydd ar faes yr Eisteddfod yn bwysig iawn i bobl gael gweld bo' ni yma, bo' ni’n rhan o’r gymuned, yn rhan o’r genedl, ac yn rhan pwysig o hynny."
Yn y dyfodol, mae'n gobeithio gweld rhagor o ddigwyddiadau sy'n dathlu'r gymuned LHDTC.
"Dw i'n meddwl 'sa’n neis 'sa ni’n gweld mwy o hyn, normaleiddio’r ffaith bod y gymuned LHDTC yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol - ac mae hynna yn digwydd, ond 'sa'n neis gweld mwy o hynny," meddai.
"A pwy a ŵyr fod Talwrn y Gêirdd wastad yn yr Eisteddfod Genedlaethol!"