Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 'Rhaid rhoi statws arbennig i'r iaith fel pwnc'
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 'Rhaid rhoi statws arbennig i'r iaith fel pwnc'
Mae’n rhaid rhoi statws arbennig i’r Gymraeg fel pwnc – dyna’r alwad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan fod llawer llai yn ei astudio i Safon Uwch/Lefel A erbyn hyn.
Mae’r Coleg yn cyfeirio at ystadegau sy’n dangos bod y nifer sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith yn llai na chwarter yr hyn oedd o brin 15 mlynedd yn ôl.
Yn 2008/9 roedd 489 o ddisgyblion Blwyddyn 13 yn astudio Safon Uwch Cymraeg. Erbyn 2023/24 roedd hynny wedi gostwng i 111, yn ôl ffigyrau Stats Cymru, sef cangen ystadegau Llywodraeth Cymru.
Roedd cwymp yn y nifer fu’n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf hefyd, o 304 i 207 dros yr un cyfnod.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod ymgynghoriad yn digwydd ar Safon Uwch Cymraeg newydd ac fe ddylai hynny fod yn fodd i hyrwyddo’r iaith.
Mae’r Coleg Cymraeg yn dweud bod llai o ysgolion cyfrwng Saesneg yn cynnig Cymraeg Ail Iaith fel pwnc Safon Uwch oherwydd bod llawer yn gofyn am isafswm dysgwyr, ac os nad oes modd cyrraedd y nifer hwnnw - fydd y pwnc ddim ar gael.
Maen nhw’n galw felly am roi statws arbennig i’r Gymraeg fel pwnc.
“Mae’r cwymp yn y niferoedd sy’n astudio’r Gymraeg fel pwnc yn y sector drydyddol dros y degawd diwethaf yn bryderus tu hwnt ac mae cynnal y ddarpariaeth ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn arbennig o heriol” meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Yn y pen draw, bydd hyn yn cyfrannu at y prinder gweithlu addysg dwyieithog ac felly’n milwrio yn erbyn nod Deddf y Gymraeg ac Addysg o sicrhau bod pob dysgwr yn gadael addysg statudol yn siarad Cymraeg.
“Mae’n rhaid i'r Llywodraeth nesaf sicrhau bod cyfle i bob person ifanc feistroli’r Gymraeg drwy roi statws arbennig i'r Gymraeg fel pwnc. Byddai hyn yn ddatganiad clir o’r bri a’r statws sydd i'n hiaith genedlaethol, byddai’n sicrhau bod gan ddigon o weithwyr mewn meysydd allweddol y sgiliau uchel sydd eu hangen a byddai’n golygu fod ymchwil academaidd ar y Gymraeg yn parhau i fod yn ddisgyblaeth fywiog sy’n cyfoethogi’n dealltwriaeth o’r Gymraeg a Chymru.
“Edrychwn ymlaen at y digwyddiad yn yr Eisteddfod er mwyn nid yn unig cydnabod yr heriau, ond hefyd trafod y syniadau a’r datrysiadau sydd angen i'r Llywodraeth nesaf ymrwymo iddynt.”
Fe fu trafodaeth bellach ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Erbyn 2050, rydyn ni’n anelu at sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle teg i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt gyrraedd oedran gadael ysgol gorfodol, waeth beth fo'u cefndir a chategori iaith yr ysgol y maen nhw'n ei mynychu.
"Yn ddiweddar, lansiodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad ar Safon UG a Safon Uwch newydd yn y Gymraeg i sicrhau bod y cymhwyster yn cyd-fynd ag uchelgeisiau polisi'r Gymraeg ac yn helpu i hyrwyddo'r iaith. Mae gan bob awdurdod lleol gynlluniau strategol, sy'n nodi sut y byddant yn tyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd dros y 10 mlynedd nesaf."