Y cyflwynydd teledu Jay Blades wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio
Mae'r cyflwynydd teledu Jay Blades wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio.
Mae Mr Blades yn fwyaf adnabyddus fel cyflwynydd y rhaglen BBC The Repair Shop.
Fe ddywedodd Heddlu Gorllewin Mersia bod disgwyl iddo ymddangos o flaen llys ynadon ddydd Mercher 13 Awst.
Cafodd y rhaglen The Repair Shop ei lansio yn 2017.
Bwriad y rhaglen yw rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd rhoi eu heitemau sydd yn werthfawr iddyn nhw i arbenigwyr eu trwsio.
Yn 2023 fe enillodd y rhaglen Wobr Teledu Genedlaethol a Bafta. Fe wnaeth o roi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen y llynedd.
Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni eraill gan gynnwys Money for Nothing a rhaglen ddogfen yn sôn am ei brofiad o ddysgu darllen yn 51 oed.
Cafodd MBE yn 2021.