Pryder bod cleifion yn adennill pwysau ar ôl defnyddio Mounjaro
Mae penaethiaid iechyd wedi codi pryderon ynglŷn â phobl yn adennill y pwysau maent wedi colli ar ôl defnyddio Wegovy a Mounjaro.
Maent yn dweud y dylai cleifion gael cefnogaeth ar ôl rhoi'r gorau i gymryd y cyffuriau er mwyn eu helpu i beidio rhoi'r pwysau yn ôl ymlaen.
Yn ôl ymchwil gan y corff Nice mae nifer yn adennill y pwysau ar ôl stopio'r driniaeth os nad oes yna gefnogaeth yn ei le.
Mae Nice yn dweud y dylai pobl gael "cyngor strwythurol a chefnogaeth ddilynol" i'w helpu ar ôl gorffen cymryd y cyffuriau.
Mae'r canllaw yn ei le i bobl sydd yn cael cynnig y triniaethau trwy'r gwasanaeth iechyd (GIG).
Yr amcangyfrif yw bod tua 1.5 miliwn o bobl yn cymryd y pigiadau colli pwysau ym Mhrydain. Mae'r mwyafrif yn talu amdanynt yn breifat ac felly ddim yn gymwys i gael cefnogaeth gan y GIG ar ôl gorffen eu defnyddio.
Mae disgwyl i tua 240,000 o bobl dderbyn Mounjaro trwy'r gwasanaeth iechyd yn ystod y tair blynedd nesaf.
Y cyngor gan Nice yw y dylai unigolion gael eu monitro am o leiaf blwyddyn ar ôl gorffen eu triniaeth a chynnig cefnogaeth ychwanegol os oes angen.
Mae'r safonau, sydd yn debyg i ganllaw ar gyfer y gwasanaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gosod y disgwyliadau i'r darparwyr iechyd gan gynnwys sut y dylen nhw gefnogi eu cleifion.
Yn ôl Dr Rebecca Payne, cadeirydd Pwyllgor Cynghori Safonau Nice bydd y "safonau yn helpu i sicrhau bod yr holl ddarparwyr iechyd yn mabwysiadau arferion da, gan roi'r cyfle gorau i bob person i beidio adennill eu pwysau dros yr hir dymor".
"Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod y gwasanaethau iechyd gyda'r wybodaeth gywir i ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol barhaus sydd angen," meddai.
Yn ôl yr Athro Kamila Hawthorne, cadeirydd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu dyw un peth i daclo gordewdra ddim yn mynd i weithio i berson arall.
Ychwanegodd bod y canllaw gan Nice yn un "pwysig a synhwyrol".
Dywedodd hefyd na ddylai pobl weld y meddyginiaethau fel yr "ateb i'w holl broblemau" a bod mynediad at wasanaethau digonol eraill yn hollbwysig, yn enwedig pan mae claf yn rhoi'r gorau i gymryd y cyffuriau.