Tommy Robinson wedi'i arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad

Tommy Robinson

Mae'r ymgyrchydd gwleidyddol dadleuol Tommy Robinson wedi'i arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad yng ngorsaf reilffordd St Pancras yn Llundain.

Ni wnaeth Heddlu Trafnidiaeth Prydain enwi Robinson, sef Stephen Yaxley-Lennon, ond cadarnhaodd yr heddlu fod dyn 42 oed, o Swydd Bedford, wedi'i arestio am ymosodiad yn Llundain ar 28 Gorffennaf.

Dywedodd yr heddlu fod yr arestiad wedi digwydd ym Maes Awyr Luton ychydig ar ôl 18:30 ddydd Llun, yn dilyn gwybodaeth bod y dyn wedi mynd ar awyren o Faro.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o niwed corfforol difrifol a bydd yn cael ei gymryd i'r ddalfa i'w holi, meddai'r heddlu.

Ychwanegodd y llu eu bod wedi gwneud cais i’w holi ar ôl iddo adael am Tenerife yn oriau mân 29 Gorffennaf yn dilyn y digwyddiad.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod gan ddyn "anafiadau difrifol ond nad ydynt yn peryglu bywyd" yn dilyn y digwyddiad yn King's Cross.

Cadarnhaodd yr heddlu yn ddiweddarach yr wythnos honno fod y dyn wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.