
'Bendigedig': Actor Rownd a Rownd yn newid gyrfa drwy berfformio mewn cartref gofal
'Bendigedig': Actor Rownd a Rownd yn newid gyrfa drwy berfformio mewn cartref gofal
Mae actor Rownd a Rownd wedi dweud iddo gael boddhad mawr ar ôl cael newid yn ei yrfa – ag yntau bellach yn gweithio mewn cartref gofal.
Yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C, fe dreuliodd Emyr Gibson bron i 20 mlynedd yn actio rhan Meical yn y gyfres sebon poblogaidd.
Bellach mae’r actor yn gweithio fel ymarferydd creadigol yng nghartref gofal Parc Pendine Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon ble mae’n cynnig cymorth i bobl oedrannus sy’n byw gyda dementia.
Mae’n perfformio ar y cyd gyda’r cerddor preswyl a’r arbenigwraig Nia Davies Williams, a hynny yn y gobaith o leddfu’r “niwl” y mae’r preswylwyr yn eu hwynebu “bob dydd".
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi ‘di bod yn actor proffesiynol ers jyst drost 30 o flynyddoedd, neshi erioed feddwl fyswn i yn y maes yma.”
Ag yntau â phrofiad helaeth ym myd y celfyddydau, mae’n dweud bod cerddoriaeth yn arf sydd yn helpu’r henoed hel atgofion.
“Dwi meddwl mae cerddoriaeth yn allweddol a mae o jyst yn ymlacio nhw, a atgofion hapus yn dod yn ôl," meddai.
“Mae gallu bod yn emosiynol weithiau, nei di weld rhywun yn crio achos bod nhw’n hiraeth a rhywbeth yn dŵad.
“Ond fwy ‘na hynny mae o jyst yn dod a nhw a mae corff nhw yn cael ymlacio’r tensiwn a’r ofn.”

'Cofio'r caneuon'
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ddydd Llun, fe arweiniodd Emyr a Nia preswylwyr y cartref gofal mewn sesiwn ganu ym mhabell Encore.
Roedd sawl un i’w weld yn canu ac yn mwynhau wedi i’r pâr gamu i’r llwyfan.
Yn dilyn eu perfformiad, dywedodd Nia Davies Williams: “Mae pobl yn gwybod rŵan pŵer cerddoriaeth wrth ymdrin â phobl sy’n byw efo gwahanol fathau o dementia megis Alzheimer’s.
“Ni’n gallu defnyddio cerddoriaeth fel rhan o’r gofal sy’n gallu helpu achos mae’n un o’r ychydig bethau maen nhw dal yn gallu ‘neud.
“Mae’n neis gweld nhw’n cofio’r caneuon a ballu a cyd ganu a jyst trio defnyddio, bachu ar hwnna a iwsio hwnna efo nhw llu.”