Canmlwyddiant Plaid Cymru: ‘Amser i ni gynnig arweinyddiaeth’

Rhun / Hanes Plaid

Wrth i Blaid Cymru ddathlu 100 mlynedd ers ei sefydlu ddydd Mawrth, mae'r arweinydd Rhun ap Iorwerth yn dweud fod yr heriau y mae Cymru yn ei wynebu yn “fwy nag erioed”.

Ar 5 Awst 1925, daeth cynrychiolwyr o ddau fudiad at ei gilydd mewn caffi yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli, gyda’r nod o ddechrau “plaid wleidyddol Gymreig”.

Y diwrnod hwnnw, sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru - mudiad a newidiodd ei henw’n ddiweddarach i Plaid Cymru.

Ddydd Mawrth, fe fydd y blaid yn nodi’r canmlwyddiant ar Faes y Brifwyl yn Wrecsam gyda cherddoriaeth byw a gwesteion.

Image
Plac
Llechen ym Mhwllheli i nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r blaid yng nghaffi Maes Gwyn

Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, dywedodd yr arweinydd Rhun ap Iorwerth bod yr hyn y mae'r blaid yn sefyll amdano "yr un fath rŵan ag yr oedd yn 1925".

“Pan oedd y weledigaeth yna’n cael ei ddatgan ym Mhwllheli yn 1925, mi oedd hynny’n ddechrau ar ganrif pan oedd Plaid Cymru wedi bod wrth galon stori Cymru," meddai.

“Drwy ein dylanwad ni, y daethon ni at bwynt lle gafon ni ein Senedd ein hunain, Cynulliad yn 1999 a Senedd ddeddfwriaethol lawn dros y blynyddoedd ddilynodd, ac mae’r drafodaeth honno ynglŷn â sut gallwn ni gyrraedd ein potensial go iawn, yn un mae Plaid Cymru yn arwain arni hi.

“Fy nadl i wrth i ni ofyn wrth bobl fod yn rhan o’r drafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ydi, pan na fyddwch chi eisiau edrych ar na thrafod ‘ydan ni’n gallu ‘neud pethau’n well yma yng Nghymru?’

“Dwi’n grediniol llwyr mai drwy annibyniaeth y gallwn ni gyrraedd ein potensial. Dwi eisiau arwain pobol ar y siwrnai honno, wrth i ni feddwl, ‘oes 'na ffordd well i ni neud pethau?’”

Image
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

Paratoi i lywodraethu?

Wedi 100 mlynedd, ydi Plaid Cymru ar fin ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf?

Roedd arolwg barn YouGov ym mis Mai yn agwrymu bod Plaid Cymru ar y blaen yn y polau piniwn gyda 30% o’r bleidlais – o flaen Reform UK, sydd yn ail gyda 25% o’r bleidlais.

Roedd Llafur, y blaid sydd wedi bod mewn grym ym Mae Caerdydd ers 26 mlynedd, yn drydydd ar y rhestr gyda 18% yn unig.

Mae arolygon barn eraill wedi awgrymu darlun cymysg, ond yn yn ôl Mr ap Iorwerth, mae’n amser i’w blaid “gynnig arweinyddiaeth”.

“Mi ydan ni’n delio efo sefyllfa sydd wedi mynd yn anoddach mewn lot o ffyrdd, a pan da ni’n edrych ar waddol 26 mlynedd o lywodraeth Lafur mewn iechyd, mewn addysg, ac o’r rhan yr economi a thlodi plant, ydi – mae’r heriau yn fwy nag erioed," meddai.

“Ond dyna pam mae hi’n fwy pwysig nag erioed i gael newid llywodraeth flwyddyn nesaf.

“Mae’r cyfan yn dod i lawr i arweinyddiaeth, a dwi ddim yn sôn am arweinyddiaeth fi fy hun, dwi’n sôn am ein parodrwydd ni i gynnig arweiniad i bobl yn y ddadl yna ar – a allwn ni wneud pethau’n well yma yng Nghymru?”

Image
Jeremy Corbyn a Nigel Farage
Mae Jeremy Corbyn a Nigel Farage wedi sefydlu pleidiau gwleidyddol newydd sydd yn apelio i etholwyr ar naill ochr y sbectrwm gwleidyddol

'Gwleidyddiaeth ranedig'

Mae gan Reform UK bellach gynrychiolaeth yn y Senedd wedi i’r Aelod Laura Anne Jones adael y Ceidwadwyr er mwyn ymuno â phlaid Nigel Farage.

Ar ochr arall y sbectrwm gwleidyddol, mae cyn arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi derbyn cefnogaeth wrth iddo geisio sefydlu plaid newydd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cynnydd y mudiadau newydd yn symptom o newid yn y dirwedd wleidyddol.

“Mae gwleidyddiaeth yn mynd yn fwy rhanedig," meddai. 

"Da ni’n gallu gweld bod yna ddadrithiad llwyr efo’r mynd a dod coch a glas yng ngwleidyddiaeth y DU. 

“Yma yng Nghymru, be sy’n galonogol ydi bod ganddyn nhw blaid wrth sefydliadol yn Plaid Cymru sydd yn cynnig atebion positif, cynnig gweledigaeth a gobaith, a hynny mewn cyferbyniad â’r rhaniadau mae plaid Reform yn gwbl ddibynnol arnyn nhw.

“Mae’n ffenomenon fyd eang, twf yr asgell dde boblyddol.

“O ran Jeremy Corbyn ar yr ochor arall, da ni ddim yn gwybod os oes ganddo fo blaid wleidyddol eto ond y peryg iddyn nhw ystyried ydi rhannu’r bleidlais ar y chwith.

 "Dwi’n meddwl byddan nhw angen meddwl yn ofalus iawn, iawn cyn gwneud hynny ac agor y drws i Reform.”

Prif lun: Rhun ap Iorwerth a rali Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1949 (Llun: Geoff Charles)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.