Cynlluniau i sefydlu gorsaf bŵer ynni glân yn Sir y Fflint

Jo Stevens

Mae sefydlu gorsaf bŵer newydd yng Nghei Connah, Sir y Fflint yn rhan o brosiect gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau "ynni glân" a allai roi pŵer i'r hyn sy'n gyfystyr â 900,000 o gartrefi.  

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, mae hon yn "foment arwyddocaol" ar gyfer y diwydiant ynni yng Nghymru.  

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddal carbon a'i storio.

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu trafodaethau newydd er mwyn ymestyn y cynllun rhwydwaith carbon HyNet North West yng ngogledd orllewin Lloegr i ogledd ddwyrain Cymru hefyd. 

O dan y cynllun, bydd allyriadau carbon yn cael eu casglu a'u rhoi o dan glo yn barhaol.  

Mae'r orsaf bŵer yng Nghei Connah yn cael ei hychwanegu at restr o dri chynllun, sydd eisoes wedi eu dynodi'n flaenoriaeth ar gyfer cytundeb ynni glân.

Bydd cynllun yn Sir Gaer hefyd yn cael ei flaenoriaethu, yn ôl Adran Ynni San Steffan.

“Mae hwn yn gam arwyddocaol yn nhŵf  y diwydiant ynni glân yng Nghymru,” meddai Ms Stevens.

“Mae'n wych gweld Gogledd Cymru ar flaen y gad ym maes rheoli carbon, gyda channoedd o swyddi newydd yn cael eu creu gan brosiect HyNet a fydd yn cyflymu'n llwybr tuag at filiau rhatach a diogelwch ym maes ynni,” ychwanegodd.

Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd y prosiectau hyn yn arwain at 800 o swyddi ychwanegol yng Ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr, yn ôl Gweinidog Diwydiant San Steffan, Sarah Jones.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.