Owain Rhys yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Owain Rhys yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
Owain Rhys sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 am gyfres o gerddi ar y pwnc 'Adfeilion'.
Mae'n dod yn wreiddiol o Landwrog, ger Caernarfon, ond mae wedi bod yn byw yn y brifddinas ers ei fod yn 14 oed.
Mae bellach yn byw yn y Tyllgoed, Caerdydd, gyda’i briod, Lleucu Siencyn, a’i blant, Gruffudd a Dyddgu.
Y beirniaid eleni oedd Ifor ap Glyn, Gwyneth Lewis a Siôn Aled. Roedd tri yn deilwng am y wobr eleni, ond Owain Rhys ddaeth i'r brig allan o 28 o gystadleuwyr - gyda 12 ohonynt yn cyrraedd y dosbarth cyntaf.
Yn fab i'r Prifardd Manon Rhys, enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015, a phrif lenor Prifwyl Wrecsam yn 2011, mae Owain Rhys hefyd yn ŵyr i'r bardd a'r dramodydd J Kitchener Davies.
Wrth gael ei holi wedi'r seremoni, dywedodd y Prifardd Owain Rhys bod ei gerddi yn seiliedig ar brofiadau go iawn, gyda'i fam Manon Rhys â'r cyflwr dementia: "Y cerddi ddoth gynta, y testun wedyn," meddai.
"Fe gawson nhw eu 'sgrifennu dros naw mis y llynedd ond ma' nhw'n cyfeirio at brofiadau dros gyfnod o saith mlynedd. Fy atgofion i o'r 70au a fy mam o'r 50au."
Mae'r cerddi yn gyfuniad o lawenydd a thristwch, ond ychwanegodd ei fod yn "benderfynol o gael cerddi llawn cariad, o dynerwch, ond bod angen son hefyd am yr ochr dywyll a 'r ffordd 'dan ni fel teulu yn dod i arfer gyda phethau."
Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Neil Rayment ac Elan Rowlands.
Dyma’r ddau a greodd y Goron drawiadol ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, a enillwyd gan Gwynfor Dafydd am ei gyfres o gerddi ar y testun ‘Atgof’.
Yn amgylchynu'r Goron mae patrwm organig ailadroddus wedi'i gymryd yn uniongyrchol o ffurfiau ffosiliedig. Wedi'u hymgorffori o fewn patrymau amgen, mae dyddiadau allweddol sy'n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam.
Noddir y Goron gan Elin Haf Davies a chyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Prydwen Elfed Owens, er cof am ei rhieni a blynyddoedd ei phlentyndod ym Mwlchgwyn ac yn Ysgol Gwynfryn.
Ar ôl gweithio i Amgueddfa Cymru am dros ugain mlynedd, mae Owain Rhys nawr yn gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol a gwerth cymdeithasol.
Bu’n aelod o dîm Aberhafren, a ddaeth i’r brig ddwywaith ar raglen Radio Cymru, Talwrn y Beirdd.
Mae hefyd wedi bod yn fuddugol yng nghystadlaethau’r englyn a’r englynion milwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae ganddo radd mewn archaeoleg, ac MA mewn Astudiaethau Amgueddfaol. Mae wrth ei fodd yn teithio Cymru a’r byd i weld cestyll, adfeilion, a beddrodau.
Mae’n ffan o dîm pêl-droed Wrecsam ers y 1970au, ac wedi profi sawl siom (ac ambell orfoledd!) wrth eu cefnogi dros y blynyddoedd.
Mae’n aelod o Gorff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Nant Caerau er 2010.
Mae’n gadeirydd cangen Caerdydd o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), ac yn ymddiriedolwr ar eu Bwrdd Cenedlaethol.
Llun: Eisteddfod / Aled Llywelyn