Cynllun peilot cychod bach y DU a Ffrainc yn dod i rym
Mae cynllun peilot "un i mewn, un allan" y DU a Ffrainc, wedi dod i rym ddydd Mawrth.
Nod y cynllun yw lleihau nifer y cychod bach sy'n croesi'r Sianel.
Mae disgwyl i fewnfudwyr anghyfreithlon gael eu cadw a’u dychwelyd i Ffrainc o fewn dyddiau.
Yn gyfnewid, bydd y DU yn derbyn nifer cyfartal o geiswyr lloches o Ffrainc ar yr amod nad ydynt eisoes wedi ceisio croesi a gallant basio gwiriadau diogelwch a'u bod yn gymwys.
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod y cynllun yn "gynnyrch misoedd o ddiplomyddiaeth aeddfed" a fyddai'n "darparu canlyniadau go iawn".
Ond dywedodd y Ceidwadwyr na fyddai'n "gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl".
Cyhoeddodd Syr Keir ac Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron y cytundeb ym mis Gorffennaf, ond roedd yn dal i fod yn destun craffu cyfreithiol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae llywodraeth y DU bellach wedi dweud bod "Comisiwn yr UE, yr Almaen ac aelodau eraill o'r UE wedi cymeradwyo y dull arloesol hwn" sy'n golygu y gall y cynllun fynd yn ei flaen.
O dan y cynllun, gallai unigolyn sy'n ceisio cyrraedd y DU drwy groesi'r Sianel gael ei ddychwelyd i Ffrainc pe bai cais am loches yn cael ei ystyried yn annerbyniol.
Mae cyfraith y DU a chyfraith ryngwladol yn atal y llywodraeth rhag anfon ceiswyr lloches yn ôl i'w gwlad wreiddiol cyn i'r ceisiadau gael eu hystyried a'u gwrthod.
Fodd bynnag, maent yn gallu cael eu hanfon i wledydd diogel sy'n barod i ystyried eu cais.