Carchar i ddyn o Fanceinion am dreisio merch ysgol yn Sir Conwy

Ursaloan Ansari

Mae dyn 32 oed wedi ei garcharu am dreisio merch ysgol yn Sir Conwy.

Roedd Ursaloan Ansari, o Birch Road, Manceinion wedi gwadu'r cyhuddiad, ond cafodd ei ddyfarnu'n euog gan reithgor fis diwethaf.  

Roedd Ansari wedi rhoi cyffuriau i'r ferch, cyn ei threisio hi mewn tŷ yn Llandrillo-yn-Rhos ym mis Ionawr 2022.

Cafodd ei ddedfrydu i garchar am 10 mlynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.   

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gavin Jones o Heddlu Gogledd Cymru fod hwn yn achos anodd tu hwnt: 

"Rwy'n canmol dewrder a chryfder y ddioddefwraig gydol yr ymchwiliad a phroses yr achos llys. 

"Oherwydd ei pharodrwydd i siarad, mae cyfiawnder wedi ei sicrhau, ac rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn arwain at ryw fath o ddiweddglo iddi hi a'i theulu," meddai.   

Ychwanegodd ei fod yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol i gysylltu â'r heddlu.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.