Maes yr Eisteddfod mewn 'Woke Free Zone'?
Efallai fod teithwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yr wythnos hon wedi sylwi ar faneri'n cyhwfan ger mynedfa'r maes parcio, gan gynnwys un sy'n nodi eu bod wedi cyrraedd 'Woke Free Zone'.
Ar benwythnos cyntaf yr Eisteddfod, roedd dwy faner arall obobtu i honno'n dangos cefnogaeth i blaid Reform UK - ond bellach mae'r ddwy wedi eu newid am faner y Ddraig Goch a baner Jac yr Undeb.
Mae'r term 'woke' yn un sydd yn cael ei ddisgrifio'n ddilornus gan bobl sydd yn tueddu i fod ag agweddau gwleidyddol asgell dde ar gyfer pobl sy'n rhoi pwysigrwydd i gyfiawnder cymdeithasol a hawliau i leiafrifoedd.
Mae bodolaeth y baneri wedi codi sawl gwrychyn yn barod yr wythnos hon, gyda mudiad gweriniaethol Eryr Wen yn gosod arwydd 'Welsh Not British' gerllaw mewn protest.
Ond pam felly fod y baneri'n chwifio ger Maes y Brifwyl? A phwy sydd yn gyfrifol amdanynt?
Mae'r baneri ar safle cwmni creu offer chwaraeon Net World Sports - cwmni hynod o lwyddiannus sydd yn cael ei redeg gan y miliwnydd Alex Lovén.
Mae Mr Lovén yn un o ddynion ifanc mwyaf cyfoethog Cymru gyda ffortiwn sylweddol.
Roedd wedi creu ei filiwn cyntaf pan oedd yn 22 oed, ac ers sefydlu ei gwmni yn 2009, mae bellach yn cyflogi 230 o bobl o'r ardal leol.
Yn enedigol o'r Amwythig, aeth i goleg Ellsmere.
Pan gafodd y baneri dadleuol eu chwifio'n gyntaf ym mis Awst y llynedd, fe wnaeth Alex Lovén ymateb i'r feirniadaeth drwy ddweud: “Mae’r byd yn lle caled ac mae bywyd yn llawn heriau.
"Ni fydd ymdeimlad o hawl na diogi llwyr yn mynd â chi i unman.
“Dylem fod yn adeiladu pobl ifanc i fyny, nid yn eu tynnu i lawr.”
Mae ei gwmni wedi symud i bencadlys newydd ac roedd Lovén ar restr The Rich List papur The Sunday Times eleni - oedd yn amcangyfrif ei fod werth £262 miliwn - sef cynnydd o £62 miliwn o'r flwyddyn flaenorol.
Cafodd ei anrhydeddu gydag MBE yn rhestr anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2023.