'Dim digon o gerddoriaeth glasurol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol'
'Dim digon o gerddoriaeth glasurol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol'
Mae pianydd byd-enwog o Sir Wrecsam wedi dweud nad oes digon o gerddoriaeth glasurol ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wrth siarad ar faes y Brifwyl yr wythnos hon, dywedodd Llŷr Williams ei fod yn bryderus am ddyfodol cerddoriaeth glasurol yng Nghymru.
"Does ‘na ddim digon o gerddoriaeth glasurol yn yr Eisteddfod erbyn hyn, yn enwedig yn y Pafiliwn," meddai wrth Newyddion S4C.
"'Da ni’n meddwl am be' oedd côr y Steddfod yn neud blynyddoedd yn ôl, gweithiau mawr, a rŵan be' sy’n digwydd yn y Pafiliwn ydi rhyw sioe ar hanes Tîm Pêl-droed Wrecsam sy' ddim yn ymestyn y cantorion yn y côr, ac mae hynny’n biti mawr.
"Mae’r Steddfod wedi methu ar y cyfle i gyflwyno rhyw ddarne mawr i’r côr fel bod modd i’r côr ddysgu’r darne yna.
"Ond dyna fel mae hi ym mhob man yn anffodus, does dim digon o sylw i’r celfyddydau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru 9.2% eleni o'i gymharu â'r llynedd.
'Colli ymwybyddiaeth'
Fe aeth ymlaen i ddweud ei fod yn bryderus bod y genhedlaeth nesaf yn "colli ymwybyddiaeth" o gerddoriaeth glasurol.
"Mae’n broblem ar hyd a lled Cymru. Does ganddo ni ddim neuadd gyngerdd yn genedlaethol yng Nghymru rŵan. Mae Neuadd Dewi Sant wedi cau ers blynyddoedd a ‘da ni’m yn gwbo' pryd mae hi’n mynd i agor," meddai.
"Sefyllfa’r ysgolion, does dim digon o gerddoriaeth yn fane yn sicr o’i gymharu â pan o’n i’n fachgen. Pedwar deg mlynedd nôl yn yr ysgol gynradd, ro’n i’n cael cerddoriaeth o hyd, cystadlu yn y côr yn yr Eisteddfod.
"Mae’r cystadlu yn dda iawn dw i’n siŵr o hyd, ond dw i’n ofni bo’ ni’n colli ymwybyddiaeth o gerddoriaeth efo’r genhedlaeth iau."
Ariannu
Yn ôl y pianydd, sy'n enwog am berfformio darnau gan Beethoven, mae angen ariannu'r celfyddydau er mwyn sicrhau dyfodol y genre.
"Mae angen i ni bwysleisio i’r gwleidyddion bod y celfyddydau a cerddoriaeth yn bwysig fel modd i dynnu pobl i fyny, cymryd nhw i fyd uwchlaw bywyd pob dydd, i dynnu nhw fyny i rwle ysbrydol," meddai.
"Nes i fagu hyder yn yr ysgol, cyfeilio i eisteddfode’r ysgol a gwasanaeth, dyna sut nes i fagu hyder fel perfformydd.
"Os fyswn i yn yr ysgol heddiw, dw i’m yn gwbo os fyswn i wedi cael yr un cyfle, a dw i'n poeni mai dim ond o’r ysgolion bonedd mae’r cerddorion yn mynd i ddod yn y dyfodol ac eglwysi cadeiriol."
'Rhaglen eang'
Mewn ymateb, dywedodd llefrydd ar ran yr Eisteddfod: “Mae’r Eisteddfod yn ymroddedig i gynnal rhaglen eang o weithgareddau a digwyddiadau ar draws pob genre diwylliannol.
"Mae cerddoriaeth glasurol yn cael llwyfan amlwg yn ein rhaglen artistig eleni fel pob blwyddyn arall, a hynny ar draws y Maes, ar lwyfannau amrywiol gan gynnwys y Pafiliwn, Llwyfan y Maes, Encore, ac mewn canolfan newydd sbon eleni, Y Stiwdio.
“Mae pob un o’n llwyfannau’n gydradd â’i gilydd, gyda chynnwys ein rhaglen yn adlewyrchu addasrwydd y llwyfan i anghenion perfformwyr a’n cynulleidfa."
Ychwanegodd: “Mae’r rhaglen yn cynnwys perfformiadau o weithiau newydd gan Brian Hughes, dathliad o gyfansoddwyr opera, mewn partneriaeth gyda Tŷ Cerdd, cyngerdd yn dathlu cyfraniadau cyfansoddwyr cwiar fel rhan o raglen Mas ar y Maes a pherfformiad o Opera Gresffordd ar Lwyfan y Maes.
“Rydyn ni hefyd yn cydweithio gyda Choleg Cydweithio gyda Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Tŷ Cerdd i lwyfannu cerddoriaeth clasurol newydd, a chodi ymwybyddiaeth, a chynnal cyngherddau o gerddoriaeth o'r archif Gymraeg a chomisiynu gwaith clasurol newydd ar gyfer llwyfan Encore rhaglen gystadlu.
“Yn ogystal, mae Medal y Cyfansoddwr, sy’n bartneriaeth gyda Sinfonia Cymru, yn cynnig cyfle mentora dros gyfnod o chwe mis i’r tri chyfansoddwr ar frig y gystadleuaeth gyda’r cyfansoddwr a’r cerddor amlwg, Pwyll ap Siôn.”
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael mynediad, creu, cymryd rhan, a gweld eu hunain wedi eu hadlewyrchu yn ein gweithgaredd diwylliannol.
"Mae ein cyllid i sefydliadau celfyddydol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Tŷ Cerdd, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chanolfan Gerdd William Mathias, yn cael ei ddyrannu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
"Derbyniodd y Cyngor gynnydd o 9.2% yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru eleni, o'i gymharu â'r llynedd."
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn cefnogi ysgolion drwy’r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, gyda chyllid o £12 miliwn dros 2025-2028, i ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc 3 i 16 oed fwynhau gweithgareddau cerddoriaeth, a dysgu i chwarae offeryn."