Adroddiadau am blatiau rhif yn cael eu dwyn o safle’r Eisteddfod
Mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau am blatiau rhif cerbydau yn cael eu dwyn dros y penwythnos o safle’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar gyrion Wrecsam rhwng 2-9 Awst.
Ddydd Llun dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau o blatiau rhif yn cael eu dwyn o bedwar o gerbydau ddydd Sadwrn a Sul..
“Mae ymchwiliadau yn parhau a hoffwn ofyn i unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus gysylltu â ni gan ddyfynnu cyfeirnod C119338,” medden nhw.