A.S. Môn yn cywiro 'honiadau ffug' am gartrefu miloedd o geiswyr lloches ar yr ynys

Llinos Medi AS

Mae'r Aelod Seneddol dros Ynys Môn wedi cyhoeddi datganiad yn gwadu bod bwriad i gartrefu miloedd o geiswyr lloches mewn gwestai ar yr ynys.

Mae negeseuon wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf yn awgrymu bod 12,000 o geiswyr lloches i gael eu cartrefu mewn gwestai yno, ond mae'r fath wybodaeth yn ffug meddai Llinos Medi A.S. o Blaid Cymru.

Mewn neges ddydd Llun, dywedodd y gwleidydd: "Mae nifer o negeseuon wedi bod yn cylchredeg ar-lein yn honni bod Gwesty Cymyran a’r Valley Hotel yn cael eu gwerthu i'w defnyddio gan y Swyddfa Gartref i gartrefu ceiswyr lloches.

"Rwyf am fod yn glir nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau hyn.

"Mae perchnogion Gwesty Cymyran wedi cadarnhau ei fod yn cael ei werthu, ac mae gan y perchnogion newydd gynlluniau i'w ailagor fel gwesty rheolaidd gyda chyfleusterau hamdden. Mae fy swyddfa mewn cysylltiad â'r perchnogion newydd.

"Rydw i wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i ofyn am gadarnhad ffurfiol nad oes unrhyw wirionedd yn y sibrydion hyn."

Ychwanegodd bod gwesty'r Valley Hotel "eisoes wedi cadarnhau bod yr honiadau am eu busnes yn gwbl ffug."

"Gall rhannu gwybodaeth ffug ar-lein wneud niwed gwirioneddol i fusnesau teuluol bach a pheryglu tensiynau yn ein cymuned. Mae'n amlwg bod sibrydion yn cael eu cychwyn gan unigolion sydd ddim yn byw ar Ynys Môn ac sy'n ymddangos yn benderfynol o achosi rhaniad.

"Byddwch yn ofalus o'r hyn rydych chi'n ei rannu. Gadewch i ni gefnogi busnesau lleol a'n gilydd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.