Tafod Glas: Caniatáu da byw o Gymru i fynd i farchnadoedd yn Lloegr

Gwartheg yn pori

Bydd cyfyngiadau ar werthu da byw o Gymru dros y ffin yn Lloegr er mwyn ceisio atal lledaeniad feirws y Tafod Glas yn cael eu llacio ymhen pythefnos.

Mewn cyhoeddiad ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i gyfyngiadau'r Tafod Glas sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd.

O ddydd Llun, Awst 18, bydd da byw o Gymru sydd wedi derbyn y brechlyn seroteip 3 (BTV-3) o feirws y Tafod Glas yn gallu mynd i farchnadoedd penodol yn Lloegr, at ddibenion gwerthu da byw o Gymru yn unig, o fewn 20km i'r ffin â Chymru.

Ymhlith y marchnadoedd sy'n gymwys i gynnal gwerthiant pwrpasol o dda byw wedi eu brechu o Gymru mae Bishops Castle, Henffordd, Kington, Llwydlo, Market Drayton, Croesoswallt, Rhosan ar Wy a'r Amwythig, ac mae'n rhaid iddynt gadw at amodau penodol.

Rhaid i anifeiliaid sy'n mynd i'r marchnadoedd hyn ac sy'n dychwelyd i Gymru hefyd gwblhau'r symudiad yn ystod yr un diwrnod ac mae’n rhaid cydymffurfio ag amodau'r drwydded gyffredinol.

Ni all anifeiliaid aros yn y farchnad dros nos, ac ni fydd gofynion profi cyn neu ar ôl symud creaduriaid lle mae'r holl amodau wedi'u bodloni.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: "Mae'r tafod glas yn glefyd a allai fod yn ddinistriol, fel y gwelwyd yn anffodus mewn gwledydd eraill.

"Fel rhan o gadw ein hymrwymiad i adolygu polisi'r Tafod Glas, rydym wedi bod yn trafod gyda rhanddeiliaid yn rheolaidd.

"Yn sgil y trafodaethau hyn, cytunwyd ar ddull fesul cam i hwyluso gwerthiannau'r hydref sy'n taro cydbwysedd rhwng buddion i'r diwydiant a'r risg o ledaenu'r clefyd.

"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod y risg o gael gwared â chyfyngiadau da byw yn raddol, a'r cydbwysedd y mae'n rhaid ei daro rhwng y gallu i fasnachu a'r risg uwch o ledaenu'r clefyd.

"Drwy drafodaethau, mae'r diwydiant hefyd yn cydnabod ei gyfrifoldebau'n llawn, gan gynnwys yr angen i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion i fynychu gwerthiannau a marchnadoedd, rôl sylfaenol brechu yn erbyn y Tafod Glas – a'r risg a'r canlyniadau a rennir pe bai'r Tafod Glas yn dod i Gymru."

Rhagor o newidiadau i ddod?

Gyda’r Tafod Glas wedi cyrraedd sawl rhan o Loegr, mae cyfyngiadau llym dros symud da byw dros y ffin.

Mae’r llywodraeth yn ystyried gwneud newidiadau pellach fis nesaf yn ogystal, gan gynnwys caniatáu da byw o Loegr, sydd wedi eu brechu, i gael eu cludo i farchnadoedd yng Nghymru.

Ychwanegodd Mr Irvine: "Gyda gwerthiannau'r hydref yn agosáu, rydym yn ystyried addasiadau pellach i'n polisi, gan gynnwys hwyluso gwerthiannau bridio mewn 'Marchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy' yng Nghymru ar gyfer gwerthu da byw sydd wedi cael y brechlyn BTV-3 o Gymru a Lloegr.

"Bydd y gwerthiannau hyn yn gallu gwneud cais i ddod yn 'Farchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy' o ganol mis Medi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.