Prifeirdd: AI yn ‘gwmwl anferth ar y gorwel’ i'r Eisteddfod

Rhys Iorwerth

Mae rhai o brifeirdd Cymru wedi dweud bod yna bosibilrwydd y bydd angen cymryd camau pellach i ddiogelu cystadlaethau llenyddol yn yr Eisteddfod pe bai deallusrwydd artiffisial (AI) yn parhau i ddatblygu. 

Am y tro cyntaf eleni mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ychwanegu rheol newydd i’w rhestr testunau. Mae'r rheol yn datgan nad oes modd i unrhyw un ddefnyddio’r dechnoleg i “greu neu gynorthwyo” cyfansoddiadau yn yr adran lenyddiaeth. 

Er nad yw rhai o feirdd amlycaf y wlad yn pryderu’n ormodol am fygythiad AI i’w crefft ar hyn o bryd, maen nhw’n rhybuddio y gallai’r sefyllfa newid yn y dyfodol. 

Mae enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, Rhys Iorwerth, yn pryderu bod y dechnoleg yn datblygu “ar raddfa mor, mor gyflym".

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwy flynedd yn ôl ‘nes i ennill y Goron, dwi’m yn meddwl odd o ar fy radar i… doedd neb yn ‘neud o.

“Os ‘di dal i wella ar yr un scale a’r un cyflymder dyna le mae’r pryder,” meddai’r prifardd o Gaernarfon. 

“Ar y funud dwi'm yn meddwl bod y systemau cweit digon da eiliad yma - dwi’m yn meddwl bod ‘na bryder. 

“Ond os ‘di pethau’n newid yn y dyfodol dwi’n meddwl bod o’n annatod bod rhaid i’r Eisteddfod ymateb rhywsut. 

“Os ydy deasullrwydd artiffisial yn dod mor dda bo’ ti methu gwahaniaethu rhwng cynnyrch AI a chynnyrch pobl, wel yn amlwg bydd rhaid i’r ‘Steddfod neud rhywbeth.

“Ond mae angen pwysleisio bod hynna’n rhywbeth i’r dyfodol.”  

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda'r Eisteddfod Genedlaethol am sylw. 

Image
Aneirin Karadog
Aneirin Karadog yn seremoni cadeirio Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016 

Camau nesaf

Yn ôl un cyn enillydd y Gadair a chyn Fardd Plant Cymru, mae’r Brifwyl wedi cymryd “cam cynta’ bwysig” drwy nodi na chaiff AI ei ddefnyddio yn y broses o gyfansoddi. 

Fe enillodd Aneirin Karadog, sydd yn wreiddiol o Lanelwy, Gadair Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 2016. Fe wnaeth o gystadlu am y Goron y llynedd gyda cherdd oedd yn ymdrin ag AI, ac oedd wedi’i hysbrydoli gan chwedl Blodeuwedd. 

Dywedodd mai’r cwestiwn nesaf i’w ofyn yw sut mae modd sicrhau nad yw beirdd yn penderfynu twyllo er gwaethaf y rheol newydd. 

Ydy’r Eisteddfod, ydy sefydliadau eraill sydd yn cynnal cystadleuthau llenyddol yng Nghymru, yn defnyddio meddalwedd i wirio os ydy rhywbeth wedi cael ei greu drwy AI? Mae hynny’n bosib,” meddai. 

“Dwi'n meddwl bod y ‘Steddfod yn arwain y ffordd gyda’r cymal yma dweud y gwir achos dwi ddim ‘di gweld cystadlaethau eraill yn gwneud. Gwirio bod y twyll yma ddim yn digwydd ydy’r cam nesa’.” 

Ond er gwaethaf unrhyw bryderon, mae Aneirin Karadog yn dweud bod o leiaf un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod yn ddiogel am y tro. 

“Elfen ddiddorol dwi ddim wedi gweld enghreifftiau cywir iawn ohonyn nhw ar y foment yw bod peiriannau AI ‘ma ddim yn gallu ei weld yn cynganeddu,” meddai. 

"Felly falle y gallai AI gystadlu am y Goron ond ddim am y Gadair eto - mae’r Eisteddfod yn saff yn hynny o beth. 

“A falle bod e’n gweud rhywbeth gwych am y gynghanedd a natur unigryw y peth yma ‘da ni wedi gwneud dros ganrifoedd yn esblygiadol drwy gynghanedd Gymraeg hefyd.” 

'Cwmwl anferth ar y gorwel'

Ddydd Iau fe fydd y beirdd yn cymryd rhan mewn sioe banel “hwylus” am ddeallusrwydd artiffisial a barddoniaeth ar faes yr Eisteddfod. Mi fyddan nhw yn cymharu’r gwaith y mae AI yn ei greu gyda cherddi go iawn.

Rhys Iorwerth fydd yn cyflwyno ‘A Oes AI?’ yn y Babell Lên ac fe fydd Aneirin Karadog ymhlith eraill fel Llio Maddocks a Mari George yn ymuno gyda nhw. 

“Da ni’n neud lot o hwyl am y peth yn y Babell Lên ar y funud ond ella gyda chysgod bach trwy’r holl beth," meddai Rhys.

“Gobeithio bod rhywun yn mynd o ‘na yn meddwl ella bod o’n hawdd i ‘neud hwyl am bethau ar y funud ond os ‘da ni’n dod 'nôl i ‘neud y sioe yma mewn pum mlynedd – fydd o’n yr un fath?” 

Mae’r prifardd yn cydnabod y gallai’r dechnoleg gael effaith gwirioneddol ar y diwydiant, boed hynny mewn rhai blynyddoedd neu ddegawdau i ddod.

“Mae'n amlwg efo goblygiadau i waith creadigol, i feirdd, i awduron - mae o fatha cwmwl anferth ar y gorwel," meddai. 

Bydd modd ymuno â Rhys Iorwerth ac Aneirin Karadog am sgwrs panel ‘A Oes AI?’ am 14.45 ddydd Iau yn y Babell Lên.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.