Rheol newydd ‘dim AI’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae rheol i beidio â defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) wedi ei hychwanegu at destunau'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf.
Mae rhestr testunau Eisteddfod Wrecsam 2025 sydd ar gael i’w phrynu ar y maes yn cynnwys y rheol newydd yn yr adran Lenyddiaeth.
Doedd dim rheol o’i fath yn bodoli yn y rhestr testunau blaenorol gan gynnwys rhai Rhondda Cynon Taf 2024.
Mae’r holl reolau eraill yn y rhestr testunau wedi aros yr un fath, gan gynnwys rheol iaith a rheol i beidio ag enllibio neb.
Mae’r rhestr testunau yn dweud:
“Deallusrwydd artiffisial: Ni chaniateir meddalwedd sydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu neu gynorthwyo yn y broses o greu cyfansoddiadau sy’n cystadlu yn yr adran hon.”
Mae’r rheol yn ei lle ar gyfer holl gystadleuaeth llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Mae hynny’n cynnwys y Goron, y Gadair, y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.
Bydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 2024, dan y themâu 'Atgof', yn cael ei dyfarnu yn y Pafiliwn am 16.00 ddydd Llun 5 Awst.
Pwnc llosg
Bydd dwy sesiwn am ddyfodol AI a’r Gymraeg yn cael eu cynnal ar faes yr Eisteddfod eleni.
Bydd TUC Cymru yn trafod ‘Deallusrwydd artiffisial: Breuddwyd neu hunllef i weithwyr a’r Gymraeg?’ ym mhabell y Cymdeithasau 2 am 15.30 ddydd Mawrth.
Ddydd Gwener fe fydd Hannah Thomas, arbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisial, a’r bardd-wyddonydd Gruffudd Antur yn trafod ‘Pendraw AI: Ennill y Gadair? A all peiriant digidol ennill y Gadair am gerdd gaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol?’