‘Oedd e’n rhan o’r Eisteddfod’: Cyngerdd arbennig i ddathlu Dewi Pws

Dewi Pws / Llwyfan Maes

“Dathlu Dewi” – dyna obaith ffrindiau a theulu Dewi Pws sydd wedi trefnu cyngerdd arbennig i’w gofio ar Faes yr Eisteddfod nos Lun.

Yn un o sêr disgleiriaf y byd celfyddydol Cymraeg, bu farw’r cerddor ac actor ar 22 Awst y llynedd, yn 76 oed.

Flwyddyn yn ddiweddarach, bydd cyngerdd arbennig yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn cynnwys perfformiadau o rai o’i ganeuon a cherddi mwyaf poblogaidd.

Bydd Nwy yn y Nen yn cynnwys perfformiadau gan nifer o artistiaid amlwg, ac yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa i gofio Dewi, yn ôl ei gyfaill a chyd-aelod band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood.

“Da ni eisiau hi fod yn noson o hwyl, noson ffwrdd a hi, noson o ganeuon cyfarwydd â phoblogaidd o eiddo Dewi," meddai.

“Roedd ei wraig, Rhiannon, yn bendant am iddo fod yn ddathliad a hefyd ei fod e’n rhywbeth y gallai pawb ymuno ynddo.”

Image
Dewi Pws
Dewi 'Pws' Morris

Yn ôl ei weddw Rhiannon byddai Dewi wrth ei fodd gyda’r syniad o gyngerdd o’i ganeuon. 

“Byddai wedi gwirioni!” meddai. 

“Efallai na fyddai’n deall pam eu bod yn canu ei ganeuon, ond byddai’n ei hystyried yn anrhydedd fawr. 

“Byddai wrth ei fodd hefyd yn gwybod na fuasai disgwyl iddo gymryd rhan yn y cyngerdd, a’i fod yn cael eistedd yn ôl a mwynhau.” 

'Syniad da'

Dewi 'Pws' Morris oedd prif leisydd y grŵp arloesol Y Tebot Piws. 

Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu’r supergroup Cymraeg cyntaf – y band roc, Edward H Dafis. 

Fe berfformiodd hefyd gyda’r band pync-gwerin Radwm, ac ymddangos ar lwyfan gyda’r band gwerin Ar Log. 

Ymhlith ei gyfansoddiadau mae ‘Lleucu Llwyd’ – un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws – a ‘Nwy yn y Nen’, cân fuddugol Cân i Gymru 1971.

Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon ‘Pobol y Cwm’ a ‘Rownd a Rownd’, ac yn y ffilm deledu eiconig, ‘Grand Slam’.

Fe ddaeth y syniad am y cyngerdd meddai Rhiannon gan gyfeillion Dewi yn fuan wedi ei farwolaeth.

“Cleif gynigiodd y syniad yn gyntaf, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad da, ac fe aeth ymlaen i drefnu pethau," meddai.

“Mei Gwynedd sy’n gyfrifol am ddewis y caneuon a phwy sy’n eu canu, a chawn weld sut mae’n mynd ar y noson."

'Adlewyrchu ei bersonoliaeth'

Ymhlith yr artistiaid fydd yn cymryd rhan yn y cyngerdd fe fydd Band Tŷ Potas gyda Pedair, Elidir Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor, Meibion Carnguwch, a Hefin Elis.

Hefyd yn camu ar y llwyfan bydd un o gyfeillion pennaf Dewi, Cleif Harpwood.

“Mae’r gyngerdd yn gwbl addas oherwydd oedd e’n gymaint o ran o’r Orsedd ac wedi perfformio ar nifer fawr o lwyfannau a pafiliynau dros y blynyddoedd,” meddai.

“Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn gyfarwydd iawn i ni fel grŵp.

“Yn y 70au a’r 80au, roedd y Steddfod yn blatfform i ni hefo’n caneuon gwleidyddol.

“Na’r naws y’n ni eisiau yw bo ni’n dathlu. Enw’r cyngerdd yw Cofio Dewi, ond dathlu’r gwaddol mae o wedi gadael, dyna’r nod.”

Image
Dewi a Cleif
Dewi a Cleif (Llun: Cleif Harpwood)

Mae’r cyngerdd yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl eleni. Y disgwyl yw y bydd miloedd o bobl ar Faes Is-y-coed yno i fwynhau, a llawer iawn mwy yn gwylio ar y teledu wrth i’r gyngerdd gael ei ddarlledu ar S4C.

“Rhaid i ni beidio cymryd y peth ormod o ddifri,” ychwanega Cleif.

“Da ni’n awyddus i adlewyrchu personoliaeth Dewi. Oeddwn i’n gallu ymarfer rhywbeth am wythnos efo Dewi, ond y munud oedd e’n sefyll o flaen cynulleidfa, oedd popeth yn newid.

“Oedd e just fel sa fe’n tanio ac yn mynnu eu sylw nhw, mynnu eu bod nhw’n ymuno da’g e.  

"A dyna’r fath o awyrgylch da ni eisiau creu.”

Fe fydd Nwy yn y Nen yn cychwyn am 21.00 ar Lwyfan y Maes, ac fe fydd modd gwylio'r gyngerdd yn fyw ar S4C, ar S4C Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.