
Creu Coron yr Eisteddfod am yr ail flwyddyn yn olynol yn ‘fraint’
Hanes Wrecsam sydd wedi ysbrydoli y Goron a fydd – os oes teilyngdod – yn cael ei gwisgo gan un o brifeirdd Eisteddfod Wrecsam ddydd Llun.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Neil Rayment ac Elan Rowlands sydd wedi creu y Goron eleni.
Dyma’r ddau a greodd y Goron drawiadol ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, a enillwyd gan Gwynfor Dafydd am ei gyfres o gerddi ar y testun ‘Atgof’.
Dywedodd Elan, sy’n wreiddiol o Gaernarfon: “Roedd hi’n fraint a llawenydd i fod y grefftwraig ieuengaf i gyd-ddylunio a chreu Coron yr Eisteddfod y llynedd, ac erbyn hyn, i fod yn un o’r crefftwyr-dylunwyr cyntaf i’w chreu am yr ail flwyddyn yn olynol.
“Mae dylunio’r Goron am yr eildro nid yn unig yn garreg filltir broffesiynol, ond hefyd yn brofiad creadigol hynod o foddhaus.
“Mae rhywbeth arbennig iawn am gymryd cysyniad sydd wedi’i wreiddio mewn lle, hanes, a chof, a’i droi’n waith celf symbolaidd y gellir ei wisgo.
“Mae’r prosiect hwn yn dal arwyddocâd personol dwfn i mi. Roedd fy hen hen dad-cu yn gweithio yn nglofeydd Hafod yn Rhos, a magwyd fy nhad yn yr ardal.
“Yn ogystal, wrth imi ymchwilio i orffennol diwydiannol yr ardal, cefais fy nghyffwrdd yn arbennig gan stori Trychineb Gresffordd yn 1934, lle collodd 266 o ddynion eu bywydau.
“Mae’r Goron yn anrhydeddu eu cof, a chryfder a gwydnwch parhaol y gymuned a helpodd i’w hadeiladu.”

‘Etifeddiaeth'
Dywedodd Neil Rayment ac Elan Rowlands fod y Goron eleni wedi’i hysbrydoli gan y ffosiliau hynafol a ddarganfuwyd yng Nghoedwig Brymbo – sy’n dyddio’n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i’r cyfnod Carbonifferaidd.
Yn ystod y cyfnod hwn, ffurfiodd haenau o falurion planhigion – ynghyd â llifogydd – y gwythiennau glo cyfoethog a siapiodd etifeddiaeth ddiwydiannol Wrecsam.
Y ffosiliau yma yw sylfaen symbolaidd y Goron, gan gynrychioli sylfeini dwfn hunaniaeth y rhanbarth.
Yn amgylchynu’r Goron mae patrwm organig ailadroddus wedi’i gymryd yn uniongyrchol o ffurfiau ffosiliedig.
Wedi’u hymgorffori o fewn y patrymau, mae dyddiadau allweddol sy’n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam.
Mae’r rhain yn cynnwys Adeiladu Tŷ Strode ger Brymbo yn 1725, a dechrau Chwyldro Diwydiannol Wrecsam pan agorwyd Gwaith Haearn Bersham yn 1782, sefydlu Gwaith Haearn Brymbo ddegawd yn ddiweddarach, a chychwyn adeiladu Traphont Pontcysyllte yn 1795.
Erbyn 1913 roedd 10,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y maes glo.
Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 1864, a 157 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yn 2021, prynodd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney y clwb.
Lansiwyd Lager Wrecsam yn 1882, ac fe anwyd James Idwal Jones, awdur yr atlas hanesyddol cyntaf o Gymru yn 1900.
Yn ganolog i’r Goron mae ail-ddychmygiad o’r Nod Cyfrin (a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod y llynedd) sydd bellach yn cynnwys gwead garw, tebyg i garreg, i adleisio’r ysbrydoliaeth ddaearegol.
Mae’r gair Wrecsam wedi’i osod ar draws y goron mewn ffont pwrpasol sy’n talu teyrnged i’r arwydd “Wrexham” arddull Hollywood eiconig a ddatgelwyd yn 2021.
Ychwanegodd Neil: “Rwyf wedi cael y fraint o weithio ar nifer o brosiectau eiconig trwy gydol fy ngyrfa fel arianydd ac aurwr – yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gyda nifer o’r darnau hynny’n ennill cydnabyddiaeth wobrwyol.
“Mae’r Goron hon yn fwy na gwrthrych seremonïol – mae’n ddarn o gelf etifeddiaeth, wedi’i ddylunio a’i greu â llaw, ac wedi’i wreiddio mewn traddodiad ac arloesedd.
“Mae’n ein gosod yn gadarn o fewn hanes diwylliannol Cymru, etifeddiaeth rwy’n hynod falch o gyfrannu ati.”
Mae’r Goron yn cael ei chyflwyno am bryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 llinell ar y testun ‘Adfeilion’.
Cynhelir seremoni’r Coroni ar lwyfan y Pafiliwn am 16:00, ddydd Llun, 2 Awst.