
Rhybudd melyn am wynt wrth i Storm Floris gyrraedd Cymru
Mae rhybudd melyn am wynt wedi ei gyhoeddi ar gyfer gogledd Cymru ddydd Llun wrth i Storm Floris daro’r wlad.
Nid yw’r rhybudd yn cynnwys Wrecsam lle mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yr wythnos hon.
Y siroedd sydd yn cael eu cynnwys yn y rhybudd yw Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn ac mae rhybuddion oren mewn lle yn yr Alban.
Mae gwyntoedd 60-70 mya yn bosibl ar hyd arfordiroedd agored a thir uchel, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd yn ei le rhwng 06:00 a 23:59 ddydd Llun.
“Bydd Storm Floris yn dod â chyfnod o dywydd anarferol o wyntog ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn ar draws hanner gogleddol y DU ddechrau'r wythnos nesaf,” meddai'r Swyddfa Dywydd.
“Gall glaw trwm hefyd gyfrannu at yr aflonyddwch mewn mannau.”

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhywfaint o ddifrod ddigwydd i adeiladau, fel teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau.
Mae anafiadau a pherygl i fywyd yn bosibl oherwydd malurion yn hedfan hefyd.
Gall toriadau pŵer ddigwydd, gyda'r potensial i effeithio ar wasanaethau eraill, fel darpariaeth ffôn symudol.
Gall gwasanaethau ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi gael eu heffeithio, gydag amseroedd teithio hirach a chanslo yn bosibl.