'Cam pwysig': Cychwyn cyflwyno brechlyn trin gonoroea yng Nghymru
Mae brechlyn er mwyn trin gonoroea nawr ar gael mewn clinigau iechyd rhyw ar draws Cymru.
Dyma'r rhaglen gyntaf o'i bath ac mae'n cael ei chyflwyno hefyd ar draws y DU.
Y nod yw ceisio taclo'r lefel uchel o'r afiechyd.
Mae'n haint sy'n cael ei drosglwyddo trwy gael rhyw heb ddefnyddio dulliau atal cenhedlu.
Ymhlith symptomau mae poen yn yr organau cenhedlu ac fe all achosi anffrwythlondeb. Ond mae nifer hefyd sydd heb unrhyw symptomau.
Mae modd osgoi'r afiechyd trwy wisgo condom a chymryd y brechlyn os yw'n cael ei gynnig.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyflwyno’r rhaglen frechu hon yn gam pwysig tuag at leihau lledaeniad haint sy’n dod yn fwyfwy anodd ei drin.
“Dylai unrhyw un sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys, yn enwedig dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion, gysylltu â’u clinig iechyd rhywiol lleol i drefnu apwyntiad.”
Yn ôl cyrff cyhoeddus mae nifer yr achosion o haint gonoroea wedi bod yn codi blwyddyn ar flwyddyn – ac mae’n “parhau ar lefelau hanesyddol o uchel.”
Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig gyntaf i bobl sydd gyda'r risg mwyaf o gael yr afiechyd, sef dynion hoyw a deurywiol sydd gyda hanes o fwy nag un partner rhywiol neu hanes o gael afiechydon rhyw yn y gorffennol.
Gobaith meddygon yw y bydd y brechlyn hefyd yn arafu nifer yr achosion o bobl sydd wedi datblygu imiwnedd tuag at gyffuriau gwrthfiotig.