Cynnydd mewn pobl yn rhannu fideos o greulondeb i anifeiliaid
Mae'r elusen lles anifeiliad, yr RSPCA, wedi rhyddhau ffigurau newydd sy'n dangos bod adroddiadau am greulondeb i anifeiliaid ar gyfryngau cymdeithasol wedi codi 27% hyd yn hyn eleni.
O fis Ionawr i fis Mai 2025, gwelodd yr elusen 133 o adroddiadau o'i gymharu â 104 o'r un cyfnod y llynedd.
Mae'r elusen hefyd wedi derbyn 2,600 o adroddiadau am greulondeb at anifeiliaid ar gyfryngau cymdeithasol dros y chwe blynedd diwethaf ac roedd cynnydd o 8% mewn adroddiadau am greulondeb o 2023 i 2024, gyda 25 o adroddiadau am greulondeb i anifeiliaid yn cael eu gwneud i'r elusen bob mis y llynedd.
Facebook oedd â'r mwyaf o greulondeb o unrhyw blatfform gyda 1,526 o adroddiadau ac yna Instagram (499) a TikTok (221).
Mae rhai o'r achosion a adroddwyd i'r RSPCA yn cynnwys;
- Llygoden fawr wyllt wedi'i rhoi mewn cawell a'i boddi mewn bwced o ddŵr - gyda'r fideo wedi'i phostio ar Facebook
- Fideo wedi'i phostio ar Facebook yn dangos menyw yn tywallt siampŵ i mewn i bwll o bysgod Koi
- Fideo ar Instagram yn dangos dyn yn marchogaeth merlen fach iawn tra bod dyn arall yn rhedeg ar ei ôl ac yn chwipio'r ceffyl
- Fideo TikTok o gath yn cael ei chodi wrth ei gwddf a'i thaflu i mewn i gawell
- Cafodd dyn ei wahardd rhag cadw anifeiliaid ar ôl postio fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ei gŵn yn hela bywyd gwyllt
Mae'r RSPCA yn ofni nad yw'r cwmnïau technoleg mawr, yn enwedig Facebook, yn buddsoddi digon o adnoddau i sicrhau bod y cynnwys hwn yn cael ei bostio o gwbl neu'n cael ei ddileu'n gyflym, ac yn lle hynny mae llwyfannau fel Facebook ac X wedi lleihau nifer y cymedrolwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r RSPCA yn gweithio'n agos gydag Ofcom i sicrhau bod cynnwys niweidiol yn cael ei ddileu a bydd yn monitro effaith y Ddeddf Diogelu Arlein ddaeth i rym yn ddiweddar dros y flwyddyn nesaf.
Dywedodd David Bowles, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr RSPCA: “Mae’n peri pryder mawr gweld bod adroddiadau a wnaed i ni am greulondeb ar gyfryngau cymdeithasol wedi bod yn cynyddu ac mae hyn yn tynnu sylw at y cynnydd y mae angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith newydd sy’n ei gwneud yn drosedd postio cynnwys sy’n dangos creulondeb i anifeiliaid ar-lein.
“Rydym yn bryderus iawn bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol wedi newid tirwedd cam-drin gyda fideos o greulondeb i anifeiliaid yn cael eu rhannu am sylw a chlod gyda’r math hwn o gynnwys yn normaleiddio - a hyd yn oed yn gwneud hwyl am ben - creulondeb i anifeiliaid.
"Yr hyn sy’n peri hyd yn oed yn fwy o bryder yw lefel y creulondeb y gellir ei weld yn y fideos hyn, yn enwedig gan fod cymaint o bobl ifanc yn cael eu hamlygu i luniau graffig o anifeiliaid yn cael eu curo neu eu lladd na fyddent byth wedi’u gweld fel arall.”