'Cymeriad glas enwocaf y byd' i ymddangos ar S4C
Bydd cyfres Gymraeg o Blŵi i'w gweld ar S4C yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae'r cymeriad dychmygol 'Bluey' yn hanu'n wreiddiol o Awstralia, ond mae S4C bellach wedi sicrhau'r hawliau i addasu straeon Bluey i'r Gymraeg.
Bydd y 'cymeriad glas enwocaf y byd' yn ymweld â phabell S4C drwy gydol yr wythnos.
Yn siarad ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun, fe ddywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd rhaglenni plant S4C: "O'r diwedd mae Blŵi wedi cyrraedd Cymru ac atom ni i S4C.
"Mae'r Eisteddfod yn gyfle perffaith i blant Cymru ddod i gwrdd â Blŵi, ac yn gyfle i'r plant gael tynnu llun efo'r cymeriad glas enwocaf yn y byd.
"Mi fydd y gyfres yn darlledu ym mis Ionawr, a fydd cyfle am lansiad mawr dros y Nadolig."
Llywodraeth Awstralia sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cymeriad, gyda'r nod yn wreiddiol o gysylltu pynciau dydd i ddydd, a sefyllfaoedd teuluoedd modern mewn i fformat dychmygol i blant.
Mae'r gwaith o gyfieithu llyfrau Blŵi i Wasg Rily wedi bod dan ofal Hanna Hopwood.