Dynes o'r gogledd yn dioddef anafiadau difrifol mewn gwersyll haf yn America
Mae ymgyrch codi arian wedi cael ei lansio er mwyn cludo dynes 23 oed o'r gogledd yn ôl adref, ar ôl iddi gael ei hanafu yn ddifrifol mewn gwersyll haf yn UDA.
Fe ddioddefodd Charlotte Hollins Anderton o Abergele, Sir Conwy, anaf a wnaeth "fygwth a newid ei bywyd" fis yn ôl.
Mae tudalen codi arian yn dweud bod y digwyddiad "wedi arwain at doriadau yn ei hasgwrn cefn a’i throed a oedd angen sawl llawdriniaeth, gwaedu mewnol a gorfod mynd i'r uned gofal dwys.
"Mae hi hefyd yn delio gyda thrawma emosiynol dwys yn sgil y digwyddiad, ac mae'n torri ein calonnau na fedrwn ni fod yna i'w helpu.
"Ond ar ben yr holl boen a'r dioddefaint annisgrifiadwy, tra'n bod ni wedi bod yn ceisio penderfynu beth i'w wneud fel teulu, rydym ni bellach hefyd yn poeni na fydd ei chwmni yswiriant yn gallu talu yn llawn am y costau i'w dod â hi yn ôl adref."
Gobaith yr ymgyrch godi arian yw casglu £45,000 er mwyn i Charlotte ddod adref.
Ychwanegodd y datganiad ar y dudalen godi arian: "Mae hi angen dod adref ar frys i gael mynediad at ofal arbenigol drwy'r gwasanaeth iechyd a pharhau i wella gyda'i theulu wrth ei hochr.
"Doeddem ni byth yn dychmygu y byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd i'n teulu ni."