Storm Floris: Cynllun yn ei le ar gyfer tywydd gwyntog yn yr Eisteddfod
Storm Floris: Cynllun yn ei le ar gyfer tywydd gwyntog yn yr Eisteddfod
Mae cynllun wedi bod mewn grym ar gyfer unrhyw dywydd gwyntog meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod wrth i Storm Floris chwythu heibio ddydd Llun.
Roedd rywfaint o ôl y gwynt ar y Maes erbyn ganol bore, gyda ffensys o amgylch y toiledau a biniau wedi eu chwythu i lawr, ac roedd rhaid cynnal Seremoni’r Orsedd yn y Pafiliwn.
Mae rhybudd melyn yn ei le yn rhan helaeth o ogledd Cymru hyd at hanner nos ddydd Llun, ond nid yw’n berthnasol i ardal maes yr Eisteddfod.
Dywedodd Betsan Moses bod y “gwirio yn parhau” o ran y tywydd ond roeddynt wedi cael gwybod nos Sul y bydd “y storm ei hun yn bell ohonon ni”.
“Mae yna rywfaint o wyntoedd felly mae'r timoedd wedi bod allan ers 5:00 y bore ma yn sicrhau bod bob dim yn iawn,” meddai.
“Ond roedden ni’n iawn i agor am 08.00 ac mi fyddwn ni’n parhau drwy’r dydd i wirio.
“Mae gyda ni bolisi tywydd. Mae fel goleuadau traffig - mae’n mynd o wyrdd i oren i goch.
Dywedodd bod tîm yn mynd o amgylch y Maes i siarad gyda pherchnogion stondinau hefyd.
“Er enghraifft, os oes baner yn cael ei rhoi a dydi e ddim at ddefnydd allanol fe fyddwn ni’n atgoffa pobl, dydi e ddim yn briodol rhoi hwnna tu allan heddi,” meddai.
“Jesd er mwyn eu cynorthwyo nhw fel stondinwyr. Ond does dim angen mynd o wyrdd i oren ar hyn o bryd.”