Gêm bêl-droed elusennol er cof am gyn bennaeth ysgol o Sir Benfro

Martin Lloyd

Cafodd gêm bêl-droed elusennol ei chynnal dros y Sul er cof am gyn bennaeth ysgol o Sir Benfro.

Bu farw Martin Lloyd o Gilgerran yn 74 oed fis Mawrth, yn dilyn cyfnod o waeledd.

Roedd Mr Lloyd hefyd yn gadeirydd cyntaf Clwb Pêl-droed Crymych, a dydd Sadwrn, cafodd gêm ei chynnal rhwng y tîm o Grymych a thîm o hen chwaraewyr Cilgerran, ar gae pêl-droed Tegryn.

Image
Crymych a Cilgerran
Chwaraewyr CPD Crymych a Chilgerran

Roedd dros 150 o bobl yn bresennol, gan gynnwys aelodau o deulu Mr Lloyd, i wylio tîm Cilgerran yn ennill y gêm o 4-0 ac yn hawlio Tlws Coffa Martin Lloyd.

Roedd arian yn cael ei gasglu ar y diwrnod ar gyfer Sefydliad Hosbis Gartref Paul Sartori, ac mae'r trefnwyr yn obeithiol y bydd y digwyddiad wedi codi £600 at yr elusen.

'Dyn ei filltir sgwâr'

Roedd Mr Lloyd yn athro economeg ac yna yn bennaeth Ysgol y Preseli yng Nghrymych tan ei ymddeoliad.

Gyda “gweledigaeth glir a brwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg” fe drodd yr ysgol yn ysgol ddwyieithog yn 1991 o dan ei arweiniad. 

Image
Martin Lloyd
Baner er cof am Martin Lloyd

Dywedodd ei gyfaill y Cynghorydd John Davies wrth Newyddion S4C, fod Mr Lloyd bob amser yn frwd dros ei gymuned gan ychwanegu fod yr ysgol yn “rhan annatod ohono.” 

“Roedd yn ddyn ei filltir sgwâr. Odd e’n Cilgerran trwyddo a trwyddo, bob modfedd o’i gorff. 

“Mae’n anodd i ddisgrifio’r teyrngarwch oedd gyda fe i’w bobl a’i gymuned – odd e’n rhyfeddol. 

“Roedd yn addysgwr oesol nath gael y gorau allan o bobl er lles y plant. Dyna oedd ei fawredd mwyaf e heb os, oedd e mor hoff o blant… 'odd e’n naturiol o ofalgar."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.