Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl diflaniad dynes yn ardal Afon Menai
Mae swyddogion yr heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dynes yn ardal Bangor Uchaf yn credu bod gan “nifer o unigolion” wybodaeth sy’n hanfodol i’w hymholiadau.
Mae hi’n wythnos ers i Gwenno Ephraim gael ei gweld diwethaf yn ardal Bangor Uchaf, ar nos Lun 28 Gorffennaf.
Y gred yw ei bod hi wedi cerdded tuag at Borthaethwy.
Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi adolygu lluniau cylch cyfyng, sydd yn dangos Ms Ephraim yn cerdded ar ei phen ei hun rhwng 22:20 a 23.10.
Mae’r lluniau yn dangos merch yn cerdded ar ochr arall y bont ar y pryd, yn ogystal â cherbydau oedd yn teithio dros y bont, ac mae’r llu yn “awyddus” i holi’r unigolion dan sylw.
Dywedodd Brif Arolygydd Stephen Pawson: “Mae chwiliadau eang yn parhau yn ardal y Fenai, a ‘da ni’n parhau i gynorthwyo teulu Gwenno yn ystod cyfnod hynod o anodd.
“Erbyn dadansoddi’r fideo TCC, ‘da ni’n hyderus bod Gwenno wedi cyrraedd Pont y Borth toc cyn 23.10.
“Mae’r fideo hefyd yn dangos merch yn cerdded ar ochr arall y bont ar y pryd. ‘Da ni’n apelio i’r unigolyn yma i ddod atom a helpu efo’r ymchwiliad.
“’Da ni hefyd yn awyddus i siarad efo seiclwr a gyrwyr tri char, a welwyd yn teithio ar draws y bont o gwmpas yr un pryd.
“Mae’r cerbydau hyn yn cynnwys Audi TT arian, Skoda Octavia du, a BMW 116 llwyd.”
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru, drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio cyfeirnod iTrace 51505.