Gofal plant yng Nghymru 'wedi torri', yn ôl ymchwil newydd

Newyddion S4C
Gofal Plant

Mae gofal plant drud yng Nghymru yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi ac wedi “torri” yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae Sefydliad Bevan yn dweud bod rhai rhieni yn gadael y gwaith a'u gyrfaoedd gan bod prisiau mor uchel.

Mae galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gofal am ddim i blant yn gynharach fel sy'n digwydd yn Lloegr, lle mae gofal plant ar gael o 9 mis ymlaen.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n buddsoddi mwy ‘na £150m’ eleni ac maen nhw'n dweud bod cynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth i deuluoedd sydd wir ei hangen mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae Catrin Hughes yn cynnal gweithdai i famau newydd yn ardal Porthaethwy, Ynys Môn a chostau gofal yn bwnc sy'n codi'n aml meddai.

"Mae costau byw yn mynd yn uwch ac mae oed pensiwn... efo neiniau a teidiau yn gweithio yn hirach hefyd, da ni angen yr help allanol yna ond ma'n dod efo'r gost uwch".

Image
Catrin Hughes
Catrin Hughes

"Mae'n heriol ar gyfer teuluoedd a ma lot yn meddwl dros y cyfnod yma ella sa'n well aros adref a dyle ni ddim mynd nôl i'n gwaith, ond wedyn mae hynny yn cael effaith ar gyfraniad pensiwn, statws yn y gweithle, dyrchafiad ella a chyfleoedd".

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 30 awr o ofal am ddim am 48 wythnos y flwyddyn i blant rhwng 3-4 oed.

Mae cynllun hefyd ar waith i gynnig 12.5 awr o ofal am ddim i blant dwy oed ond mae'r cynllun hwnnw ar gael mewn rhai mannau yn unig, ac mae'n cael ei gyflwyno'n raddol.

'Lwcus'

Yn sesiwn Dwylo Bach ym Mhorthaethwy sy'n cael ei chynnal gan Catrin Hughes, roedd profiadau nifer o rieni yn debyg.

"Da ni'n ofnadwy o lwcus bod gynno ni neiniau a teidiau sy'n gwarchod sy'n life saver neu 'dw i'm yn meddwl swn i'n gallu fforddio gwneud bob dim a deffinet goro cutio lawr ar lot o luxrys," meddai Ceri Jones, sy'n 33 oed.

Image
Ceri Jones
Ceri Jones

"Da ni wedi gwneud y penderfyniad mai Jaco fydd yr olaf i ni a dau allwn ni fforddio neu 'sa ni'm yn gallu rhoi chwarae teg iddyn nhw."

Dweud yn debyg mae Mari Hanks, sy'n 32 oed.

"Mae bod yn fam newydd yn anodd fel mai heb sôn am feddwl am gostau ac mae costau lot mwy na be ma nhw 'di bod."

Mae hi hefyd yn dweud bod costau uchel yn gwneud iddi ystyried os a phryd mae modd cael ail blentyn.

Image
Mari Hanks
Mari Hanks

"Ti goro meddwl faint o gap swni'n gallu cael rhwng y plant... mae'n anodd."

Yn ol Dr Steffan Evans o Sefydlaid Bevan mae’r system gofal plant wedi torri ac mae angen mwy o gefnogaeth i deuluoedd.

“Y ffaith sydd 'da ni ydi, does ganddo ni ddim cymorth o gwbl i’r plant yna rhwng 9 mis a dyflwydd oed ac os di’r cymorth ddim ar gael yn lle cyntaf  'na- mae’r rhieni yn aml wedi neud y penderfyniadau yna o ran gofal, patrymau gweithio ac mae’n effeithio arnyn nhw am flynyddoedd i ddod.”

Mae Mudiad Meithrin hefyd yn galw am gyllido gwell gan y llywodraeth nesa wedi'r etholiad ym mi Mai.

“Dwi’n meddwl fydde rhan fwyaf o bobl yn cytuno fod y system yn or-feichus ac yn or gymhleth fel y mae hi”, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

“Mae 'na angen am fuddsoddiad pellach ac o drafod y  Gymraeg ac os ‘da ni am weld darpariaeth bellach, y ffordd haws sydd ganddo ni o weld hynny ydi drwy weithio efo Mudiad Meithrin.”

'Gwylltio fi'

Dros y ffin yn Lloegr mae 12 awr a hanner o ofal am ddim yn cael ei gynnig i deuluoedd a'r ddarpariaeth yn cynyddu dros amser wedyn.

Yn ôl Leusa Marie Wright sy'n 31 oed ac efo hogyn sydd bron yn dair oed, mae'r gwahaniaeth yn annheg.

"Mae'n gwylltio fi," meddai.

Image
Leusa Marie Wright
Leusa Marie Wright

"Mae bendant yn 'neud newid sut ydan ni'n meddwl cael mwy o blant, 'di oedi'r penderfyniad.

"Mi oeddem ni eisiau dipyn o blant yn reit agos at ei gilydd ond oherwydd costau ‘sa fo jest heb weithio a fasa ni wedyn 'di cael dau plentyn mewn gofal.

"Basa fo ddim yn neud synnwyr - basa fo be 'swn i'n cael fy nhalu am y mis."

Rhybudd Comisiynydd Plant 

Gyda rhybudd bod costau gofal uchel yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi, mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud bod tlodi plant ar ei waethaf eto.

"Mae'r ymchwil yn sôn y byddai rhai teuluoedd angen £1,000 y mis yn fwy er mwyn cyrraedd a mynd dros y trothwy tlodi, ac i hynny fod yn ansawdd bywyd derbyniol," meddai Rocio Cifuentes.

"I bobl fod mor bell â hynny bob mis.. dwi'n meddwl bod ni 'di cyrraedd y lefel isaf eto," ychwanegodd. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae nhw wedi buddsoddi mwy na £150m eleni ar ddarpariaeth gofal a bod rhaglen Dechrau’n Deg yn cael ei ehangu i ragor o deuluoedd.

“Mae’r cynlluniau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i blant a theuluoedd ar draws Cymru,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.  

“Mae cynllun Dechrau’n Deg yn canolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y teuluoedd sydd angen y mwyaf o help”.

Ychwanegodd y llefarydd bod Cynnig Gofal Plant yn cynnig hyd at 30 o oriau yr wythnos o ofal plant sydd wedi’w gyllido gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

“Yn wahanol i Loegr mae hyn ar gael i rieni sydd mewn hyfforddiant ac addysg hefyd,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.