Jac Morgan 'am adael Cymru' petasai'r Gweilch yn cael eu cwtogi
Mae capten Cymru, Jac Morgan, wedi dweud wrth Undeb Rygbi Cymru y byddai’n gadael Cymru petasai ranbarth y Gweilch yn cael ei ddiddymu.
Wrth i ymgynghoriad dros ddyfodol rygbi yng Nghymru dod i ben ddiwedd yr wythnos, mae'r Undeb wedi datgan yn flaenorol eu bod yn ffafrio cynnig a fyddai'n arwain at gwtogi dau o'r pedwar rhanbarth presennol - sef Gweilch, Scarlets, Dreigiau a Chaerdydd.
Wythnos yn ôl roedd blaenasgellwr y Gweilch, Morgan, yn derbyn gwobr Chwaraewr y Flwyddyn mewn seremoni yng Nghaerdydd ac yn edrych ymlaen at gael chwarae eto dros ei ranbarth, er gwaetha’r storm oddi ar y cae.
Dywedodd ar y pryd: “Na i gyd ni’n gorfod canolbwyntio arno yw ein swydd ni a ffordd ni’n perfformio a ffordd ni’n ymarfer, a jyst gweithio ar bopeth ni di gweithio arno dros yr haf, a trio adeiladu fel tîm ac fel carfan.”
Ond yn ôl adroddiadau, mae Morgan bellach wedi rhoi gwybod i'r Undeb y byddai yn gadael Cymru petasai'r Gweilch yn un o'r rhanbarthau a fyddai'n cael eu cwtogi.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones: “Mae gan Jac lawer iawn o onestrwydd.
"Mae'n fachgen gonest sy'n caru'r Gweilch, ac mae'n arwydd o faint mae'n parchu ei gyd-chwaraewyr.
"Dylai gael ei ganmol os yw wedi dweud hynny. Byddwn wrth fy modd yn ei gael am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd y cyn chwaraewr proffesiynol a chyflwynydd S4C, Rhodri Gomer, y dylai'r Undeb ystyried newid trywydd er mwyn cadw chwaraewyr blaenllaw fel Morgan yr ochr yma o'r ffin.
"Ma' ryw deimlad 'da fi bod 'na rhywfaint o dro pedol mynd i ddod. Ma' nhw'n dod o dan bwysau o bob cyfeiriad," meddai.
"Falle bach yn naïf i feddwl bydde' nhw'n gallu gwthio hyn drwyddo mor hawdd â hynny.
"Os y'n nhw'n newid eu meddyliau, wel ma' rhaid i chi ganmol nhw am hynny. A 'wy wir, wir, wir yn gobeithio na' ewn ni lawr at ddau ranbarth."
'Pryder' ym Mharc y Scarlets
Ben arall i Afon Llwchwr, ac yr un yw’r pryderon ynglŷn â’r cynigion radical i ailwampio rygbi proffesiynol yn Llanelli, cartref y Scarlets.
Er bod capten y Scarlets, Josh Macleod, wedi dweud mai ar y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Munster fydd ffocws y chwaraewyr, mae prif hyfforddwr y rhanbarth, Dwayne Peel, yn dweud bod y trafod yn cael effaith ar bawb.
Dywedodd Dwayne Peel: "Bydden i’n dweud bod pryder dros y gêm yn gyfan gwbl dros y pedwar rhanbarth.
"Dwi’n credu bod pryder yn y staff a’r chwaraewyr a’r cefnogwyr. Beth y’n ni di trio bod yn glir gyda chwaraewyr yn glir gyda beth y’n ni’n trafod a beth yw trafodaethau’r clwb gyda'r Undeb ac i fod yn deg mae'r trafodaethau wedi bod yn iach hyd yn hyn."
Fe ychwanegodd: "I fi mae’r Scarlets ynghlwm gyda rygbi Cymru ac wedi bod hyd ei oes felly i fi smo fi’n gweld unrhyw synnwyr bod y gêm yn mynd mlân yng Nghymru heb glwb fel y Scarlets, felly mae'n hollol bwysig bo ni’n rhoi ein barn.”
Bydd y Gweilch yn cychwyn eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Ne Affrica gyda gêm yn erbyn Pretoria Bulls ddydd Sadwrn am 13.00, tra bod Scarlets yn croesawu Munster i Lanelli ddydd Sadwrn am 17.30.