Marwolaeth Tonysguboriau: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae dyn wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Joanne Penney yn Nhonysguboriau fis Mawrth.

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf ar 9 Mawrth.

Clywodd agoriad cwest ym mis Mawrth fod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod Renaldo Baptiste, 38 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac o gymryd rhan mewn gweithgareddau troseddol ac yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Ef yw'r 12fed person i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Ms Penney.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.