Bangor: Carchar i ddyn a yrrodd 100mya wrth ffoi rhag yr heddlu

Jerry Berry

Mae dyn a wnaeth yrru ar gyflymder o 100 milltir yr awr wrth geisio ffoi rhag yr heddlu drwy Wynedd cyn cael ei arestio ym Mangor wedi cael ei garcharu am dair blynedd ddydd Iau.

Roedd Jerry Berry, 39, sydd heb gartref sefydlog, wedi ceisio ffoi rhag yr heddlu am 10 munud ar hyd ffyrdd Gwynedd ar ôl iddo ddwyn car.

Cafodd ei arestio ym Mangor ac fe gyfaddefodd i ladradau o bum eiddo gwahanol gan gynnwys rhai yn Wrecsam a Threffynnon.

Roedd wedi dwyn sawl car a hefyd arian o gaffi mewn eglwys.

Fe gyfaddefodd hefyd i yrru'n beryglus ar ffordd yr A5, gyrru tra ei fod wedi ei wahardd rhag gwneud hynny a dianc o ddalfa'r heddlu.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod 13 trosedd gwahanol dan ystyriaeth.

Roedd gan Berry 81 o droseddau blaenorol ar ei gofnod troseddol.

Dywedodd y Barnwr Nicola Jones y byddai Berry yn cael ei garcharu am dair blynedd a 10 mis.

Ychwanegodd ei fod wedi ei wahardd rhag gyrru am 71 mis, sef bron i chwe blynedd a’i fod heb ddangos "unrhyw ofal i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd" wrth geisio ffoi rhag yr heddlu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.