Dyn 87 oed o'r Bala wedi marw ar ôl cael ei wthio

Llangollen Fechan

Bu farw dyn 87 oed o'r Bala oedd yn byw mewn cartref gofal ar ôl cael ei wthio gan breswylydd arall a syrthio i'r llawr, clywodd cwest ddydd Iau.

Fe wnaeth y cyn adeiladwr Cecil Edwards, oedd yn byw yng nghartref gofal Llangollen Fechan ac oedd â dementia, farw yn yr ysbyty ym mis Gorffennaf 2022.

Mewn datganiad, dywedodd Tracey Lloyd, glanhawraig yn y cartref gofal, fod drws ystafell preswylydd arall wedi bod ar agor yn ystod y digwyddiad ar 6 Gorffennaf a bod hwnnw wedi dweud "ewch allan, cadwch draw".

"Gwthiodd [y preswylydd arall] Cecil ar ei frest a syrthiodd Cecil i'r llawr - roedd yn wthiad yn eithaf caled," meddai Tracey. Roedd hi wedi gweiddi am gymorth.

Dywedodd y crwner Mr Gittins bod Cecil Edwards wedi marw drwy anffawd.

Ychwanegodd bod ganddo niwmonia ac anaf i'w ymennydd, ond mai "anafiadau i'w frest" oedd prif achos ei farwolaeth.

“Dyna’r rheswm pam oedd yr heddlu mor gysylltiedig â'r digwyddiad," meddai.

"Roedd yn rhaid iddyn nhw gwestiynu a fyddai [y gwthio] yn gallu bod yn drosedd, llofruddiaeth neu ddynladdiad.

“Mae penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn ag a oedd gan [y preswylydd arall] y gallu i wybod, neu beidio â gwybod, beth oedd yn ei wneud pan wthiodd Cecil."

Er bod ffrae wedi digwydd, nid oedd yn gyfystyr ag ymosodiad troseddol, meddai'r crwner. Ni chafodd y weithred ei “wneud yn ymwybodol” gan y preswylydd arall.

"Mae marw drwy anffawd yn golygu fod yna weithred fwriadol ond fod ganddo ganlyniadau anfwriadol," meddai'r crwner.

Ysbyty

Clywodd y cwest hefyd bod Cecil Edwards wedi ei gludo i'r ysbyty ym mis Mai, deufis cyn iddo farw ar gyfer sgan CT ar ei ymennydd.

Roedd ganddo arwyddion o waedu ar yr ymennydd, ond fe adawodd yr ysbyty 48 awr yn ddiweddarach.

Dywedodd ei fab 57 oed, David bod ei ymddygiad yn "fwy heriol" wedi iddo adael yr ysbyty.

Ar 4 Gorffennaf 2022 fe symudodd i Langollen Fechan er mwyn derbyn gofal, ond roedd cyfyngiadau Covid yn ei wneud yn anodd i David ymweld â'i dad.

Llai na phythefnos yn ddiweddarach ar 13 Gorffennaf fe gafodd Mr Edwards ei gludo i'r ysbyty ar ôl i nyrs dweud ei fod yn sâl.

Dywedodd doctor ei fod wedi torri ei asennau.

Dyna oedd y tro cyntaf i'w deulu dod yn ymwybodol o'i anafiadau a bu farw yn yr ysbyty.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.