
Gadael Afghanistan: Cyn-filwyr yn gobeithio nad oedd eu haberth yn wastraff

Gadael Afghanistan: Cyn-filwyr yn gobeithio nad oedd eu haberth yn wastraff
Wrth i luoedd rhyngwladol baratoi i adael Afghanistan, mae perthynas i un milwr gollodd ei fywyd yno wedi dweud ei fod yn poeni y gallai ei farwolaeth gael ei weld fel "wast o fywyd".
Ers 20 mlynedd, mae gwledydd y gorllewin wedi bod yn brwydro yn y wlad. Ond mae'r Taliban yn ennill tir unwaith eto, a dros hanner pobl Afghanistan bellach yn byw dan eu rheolaeth.
Bu farw Martin 'Rambo' Richards o Benmachno ar 27 Mai 2009 wedi i'w gerbyd gael ei daro gan fom ochr ffordd. Roedd yn 'commando' gyda'r Royal Marines ac yn 24 oed.
Roedd e'n serennu i'r tîm pêl-droed lleol, Machno United, gan gynnal sesiynau ffitrwydd i'r tîm pan roedd gartref ar gyfnodau o wyliau.
Yn gyd-chwaraewr a ffrind i Martin, roedd Owen Davis hefyd yn perthyn i'r milwr drwy briodas. Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C bod pobl y pentref gydag atgofion cynnes am 'Rambo':
"[Roedd e'n] full of beans, practical joker go iawn, lot o barch iddo fo gan Marines eraill odd o'n gweithio efo.

"Dwi'n meddwl bod ni gyd mor browd ohono fo. Falch i allu galw fo'n ffrind, rhan o'r teulu. Methu fo lot rili."
Bob blwyddyn, mae ffrindiau Martin Richards yn cwrdd i gofio amdano. Ddwy flynedd yn ôl, ddegawd wedi ei farwolaeth, trefnwyd gêm bêl-droed arbennig rhwng y tîm lleol a thîm y Marines, gyda channoedd yn dod i wylio.
Ond wrth weld lluniau diweddar o Afghanistan, lle mae'r Taliban yn prysur ennill tir, mae Owen Davis yn poeni.
"Mae'n anodd iawn pan dwi'n watsiad newyddion. Mae'n dy boeni di - y ffaith bod nhw weld ar hyn o bryd yn ennill lot o dir nôl. Ti jesd yn gobeithio neith o'm digwydd neu sa fo'n teimlo fel hollol wast o fywyd. Da ni ddim isho fo deimlo fel hollol wast. Da chi isho i'r newidiada mae'r hogia na di neud yn y wlad i aros yna."
Yn ôl amcangyfrifon, mae bron i 250,000 o bobl wedi eu lladd yn y wlad ers 2001. Bu farw 1659 o sifiliaid yno yn ystod hanner cyntaf eleni - y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnod yn 2009.
Mae gwledydd y gorllewin wedi addo gadael y wlad erbyn 11 Medi eleni. Ond yn absenoldeb niferoedd mawr o filwyr ar y ddaear, mae'r Taliban wedi gweld eu cyfle i ymosod.
Eisoes, maen wedi dal eu gafael ar dipyn o gefn gwlad Afghanistan. Ond yn yr wythnos ddiwethaf, maen nhw hefyd wedi cipio pum prifddinas daleithiol. Ac mae brwydro ffyrnig hefyd wedi bod yn Lashkar Gah - prifddinas talaith Helmand lle bu'r rhan fwyaf o filwyr byddin Prydain yn ymladd.
Bu farw 456 o filwyr gwledydd y Deyrnas Unedig yn Afghanistan. 2009 oedd y flwyddyn lle gwelwyd y nifer uchaf o golledion, gyda 108 milwr Prydeinig yn marw.
Un fu yno'r haf hwnnw oedd Mark Owen o Gaernarfon.

Yn is-gorpral ar y pryd, mae bellach wedi gadael y fyddin. Ond mae ei brofiadau yn Afghanistan yn chwarae ar ei feddwl hyd heddiw.
"Ma na rei petha sy'n croesi meddwl fi bob diwrnod. A dim jesd un waith, ma na rei petha sy'n croesi meddwl fi, fedrith e fod dwy waith mewn awr. A ma na rai hogla sy'n aros hefo fi - fedrai ddim cerddad heibio garej gwerthu teiars ceir am bod yr ogla yn atgoffa fi o ogla IED yn chwythu."
Bu'n dyst i sawl marwolaeth, gan gynnwys ffrwydrad pan laddwyd prif swyddog y Gwarchodlu Cymreig, Rupert Thorneloe.
"Hynna sy'n sticio hefo fi ydy faint o bobl nath fynd. Especially efo fatha Facebook a Twitter, ma na lot o bobl yn neud anniversaries o farwolaetha servicemen a sa chdi'n synnu faint sy'n dod lan nath farw yn yr haf na 2009. Ma na un, dau weithia tri bob wsnos."
Ond er gwaethaf y sefyllfa bryderus yno, mae'n dal i obeithio fod y milwyr wedi gwneud gwahaniaeth.
"Ma' 'na adega' lle dwi'n meddwl i fy hun, i be o'dd o gyd? Ond i fi, os natho ni neud gwelliant a gwelliant i bywyd pobl yna os odd o am amser byr neu amser hir, dw'i yn meddwl bod 'na rhywfaint o werth mewn gwneud hynna."
Fel cyfieithydd i fyddin Prydain, bu Nazir Ayeen yn gefn i filwyr fel Mark Owen. Yn ogystal â chyfieithu i filwyr ar batrôl, bu hefyd yn cyfieithu i wleidyddion o wledydd Prydain, gan gynnwys William Hague ac Alan Johnson, yn ogystal â'r Tywysog Charles.

Erbyn heddiw, mae'n byw yn Llundain. Ond dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn poeni'n fawr am ddyfodol ei famwlad.
"Ers dechrau'r ymgyrch filwrol yn Afghanistan, roedd pethau wedi eu llywio gan America a Phrydain a'r gorllewin - doedd e ddim wedi selio ar ddymuniadau pobl Afghanistan. Cafodd ei greu yn Ewrop ac America ac fe orffennodd gyda chynllun a bwriad America.
‘’Yn anffodus, ni ddaeth yr heddwch a addawyd i bobl Afghanistan. Fe wnaeth achosi mwy o anhrefn. Mae mwy o lanast yn Afghanistan nawr nag oedd 20 mlynedd yn ôl.
"Mae'r Taliban llawer cryfach, maen nhw'n rheoli mwy o dir na llywodraeth Afghanistan a dy'n nhw ddim yn barod i negydu gyda'r llywodraeth. Maen nhw'n teimlo bod y llywodraeth yno o ganlyniad i oresgyniad gorllewinol - gan Brydain ac America. Mae'r goresgyniad wedi dod i ben, ac maen nhw'n teimlo felly y dylai'r llywodraeth hefyd ddod i ben."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae gennym ni fel gwlad le mawr i ddiolch i'r miloedd o filwyr a lluoedd arfog wasanaethodd yn Afghanistan, ac i'r Afghaniaid a'u cefnogodd. Rhaid i ni byth anghofio eu haberth, na chwaith yr hyn a gyflawnwyd ganddyn nhw."
"Am ugain mlynedd, llwyddasant i rwystro terfysgwyr rhag cael hafan i lansio ymosodiadau ar y Deyrnas Unedig, gan gynorthwyo wrth ffurfio a thyfu lluoedd Afghanaidd er mwyn amddiffyn eu gwlad rhag eithafwyr. Ac fe sicrhaon nhw welliant i filiynau o fywydau a thrawsnewid cymdeithas Afghanistan."