Pwy sydd wedi ennill gwobrau y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni?

Gareth Griffiths

Arlunydd aml-gyfrwng o Wynedd sy’n creu gwaith mewn dau a thri dimensiwn, yw enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

Cyflwynir y wobr i Gareth Griffith o Fynydd Llandygai ger Bangor mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl.

Mae’r Eisteddfod hefyd wedi cyhoeddi enillydd Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, Ysgoloriaeth Artist Newydd yr Eisteddfod a hefyd y Fedal Aur am Bensaernïaeth.

Verity Pulford o Eryrys ger Rhuthun yn derbyn y Fedal Aur am Grefft a Dylunio.

Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen i Barnaby Prendergast, o Fethesda ger Bangor.

Y cwmni pensaernïaeth o Lundain, Manalo & White, dan arweiniad y pensaer Takuya Oura, sy’n ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth.

Image
Gwaith Gareth Griffiths
Gwaith Gareth Griffiths

Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

Dywedodd Gareth Griffith, ennillydd y  y Fedal Aur, ei fod wrth ei fodd o ennill y wobr. 

Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon. Roedd ei dad, Robin Griffith, yn arlunydd a gyfrannodd gartwnau i gylchgronau’r Urdd am flynyddoedd.

"Rwyf wedi arddangos fy ngwaith yn Y Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith ers y 1970au, ond dyma’r tro cyntaf i mi ennill y wobr yma,” meddai.

“Mae’n dipyn o anrhydedd i arlunydd o Gymru gael fy nghydnabod fel hyn.”

Ychwanegodd Gareth ei fod wedi cyflwyno pum eitem i’r detholwyr eu hystyried ar gyfer arddangosfa Y Lle Celf, arddangosfa flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Daeth y tri ohonynt i’r stiwdio i weld y gwaith ac roeddent wrth eu bodd. Cymaint felly, gofynnwyd i mi arddangos dros 20 eitem i gyd. 

“Mae trefnwyr yr arddangosfa wedi trefnu i mi gael gofod tua phedwar metr wrth dri i osod y gwaith.”

Astudiodd Gareth Griffith yng Ngholeg Celf Lerpwl yn nechrau’r 1960au. Ar ôl cyfnod yn dysgu mewn ysgol gynradd yn y ddinas honno ac yn treulio dwy flynedd yn Jamaica, dychwelodd i Gymru a threuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel athro celf yn ysgolion ardal Bangor. 

Ar ôl ymddeol, adeiladodd stiwdio newydd yn ei ardd, ac ers hynny mae wedi cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa.

Fe’i cynrychiolir yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, Oriel Gelf Walker, a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau.

"Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o bethau. Rwy’n chwilio am gysylltiadau rhwng yr adeiladwaith rwy’n ei greu a’r hyn rwy’n ei beintio – mae symbiosis rhwng y ddau.”

Image
Verity Pulford
Verity Pulford

Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

Mae modelau gwydr lliwgar a manwl o benglogau adar wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio i artist o Sir Ddinbych yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd Verity Pulford o Eryrys ger Rhuthun yn derbyn y fedal mewn seremoni arbennig ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod, a gynhelir eleni yn Wrecsam.

Dywedodd fod ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan strwythurau a phatrymau twf mewn planhigion a ffurfiau bywyd eraill.

"Planhigion nad ydynt yn blodeuo fel cen, algâu, rhedyn a mwsogl, a hefyd byd hudolus ffyngau,” meddai.

“Rwy’n chwarae gyda syniadau realaeth hudolus – creu fy ffurfiau fy hun wedi’u hysbrydoli gan neu’n cyfuno gwahanol blanhigion ac organebau.

“Rhoddodd Mutualism, fy mhrosiect diwethaf a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y cyfle i mi ymchwilio i infertebratau môr, ac mae llawer o’r rhain bellach yn ysbrydoliaeth.

“Mae gen i ddiddordeb ac mae dylanwad arnaf hefyd gan gatalogio natur – arteffactau hanes natur, cyanoteipiau cynnar, pelydrau-x, delweddau microsgopig a lluniadau botanegol."

Image
Barney Prendergast
Barney Prendergast

Ysgoloriaeth Artist Newydd Eisteddfod 2025

Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Newydd Dewi Bowen i Barnaby Prendergast ar ddiwrnod agoriadol y brif ŵyl yn Lle Celf yr Eisteddfod.

Wedi’i dyfarnu er cof am Dewi Bowen gan ei nith, Elizabeth, cyflwynir yr ysgoloriaeth i unigolyn sydd wedi bod yn astudio neu’n gweithio fel artist am lai na phum mlynedd.

Mae Barnaby yn gobeithio defnyddio’r wobr o £1,500 i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr i ddatblygu ei yrfa ymhellach. 

Yn ogystal, bydd yn derbyn gwahoddiad i arddangos mwy o’i waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngharreg Las yn 2026.

Dywedodd Barnaby, 22 oed: “Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith yn bodoli trwy chwarae, ac rwy’n hoffi meddwl na fyddai’n bodoli oni bai fy mod yn mwynhau ei wneud.”

Dilynodd Barnaby, cyn-ddisgybl yn Ysgol Friars, Bangor, gwrs gwaith coed yng Ngholeg Glynllifon cyn astudio am radd mewn celfyddyd gain ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste. 

“Graddiais yr haf hwn ac rwy’n gobeithio datblygu fy ngyrfa fel artist gyda’r ysgoloriaeth hon. Rwyf wedi dod o hyd i sied ar fferm fach yr wyf yn gobeithio ei throi’n stiwdio,” ychwanegodd.

Image
Y Nyth
Eglwys y Santes Fair

Y Fedal Aur Am Bensaernïaeth

Bydd penseiri a luniodd brosiect i drawsnewid eglwys yn ganolfan gelfyddydau gymunedol yn derbyn y Fedal aur am bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Trawsnewidiwyd Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Bangor yn ofod celf a pherfformio hyblyg ar gyfer Frân Wen, cwmni theatr proffesiynol sy’n darparu gweithgareddau’n benodol i bobl ifanc.

Dyluniwyd y prosiect gan y cwmni pensaernïaeth o Lundain, Manalo & White, dan arweiniad y pensaer Takuya Oura. 

Dyfernir y wobr i brosiect pensaernïol o ansawdd uchel sy’n dangos rhagoriaeth mewn dylunio ac ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan ystyried deunyddiau, perfformiad adeiladu, datgarboneiddio ac ailgylchu ar ddiwedd oes yr adeilad.

Dywedodd Takuya Oura, “Roedd cynllunio’r prosiect yn heriol gan fod angen bodloni anghenion Frân Wen a’u dymuniad i gael adeilad hygyrch i bawb.

“Ond fe wnaethom oresgyn yr heriau hynny ac rydym yn hynod falch o’r canlyniad terfynol ac o dderbyn yr anrhydedd hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.”

Sefydlwyd Frân Wen 40 mlynedd yn ôl fel cwmni theatr ac addysg Gymraeg i weithio gydag ysgolion lleol i lwyfannu dramâu. Ond wrth dyfu’n gyson, daeth y ganolfan yn hen ysgol gynradd ym Mhorthaethwy yn rhy fach.

Dywedodd y prif weithredwr, Nia Jones, eu bod wedi archwilio sawl opsiwn i wella’r cyfleusterau, gan gynnwys adeilad newydd sbon, “Roeddem yn chwilfrydig am y cynlluniau a luniwyd gan Takuya, sydd wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r briff a osodwyd iddo.

“Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae’r prosiect wedi trawsnewid yr adeilad hwn a chreu llawer mwy o le i Frân Wen. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth bwysig o’n hymdrechion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.