
Dynes o Fachynlleth yn helpu mamau sengl yn Uganda ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei mam
Mae dynes ifanc o Fachynlleth ym Mhowys wedi bod yn helpu mamau sengl yn Uganda ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei mam.
Mae Hanna Penrhyn Jones, 18, wedi cael ei magu gan fam sengl ers i'w rhieni wahanu pan oedd hi'n ddwy flwydd a hanner oed.
Er bod ganddi berthynas dda gyda’i thad, mae Hanna yn dweud bod ei mam, Angharad, wedi wynebu nifer o heriau dros y blynyddoedd.
"Mae mam wedi teimlo bod ‘na lot o stigma ynghylch y ffor mae’r tabloids yn portreadu mamau sengl fel rhywbeth negyddol ac o ganlyniad dwi’n meddwl mae pobl yn edrych i lawr arnyn nhw," meddai wrth Newyddion S4C.
"Lle efo dynion sy’n dadau sengl, maen nhw’n cael eu mawrygu a'u gweld fel arwyr, ond mae disgwyl i ferched wneud y gwaith yn dawel ac yn ddi-dâl.
"Dros y blynyddoedd mae mam wedi gorfod troi lot o swyddi i lawr oherwydd heb bartner roedd o’n anodd iddi hi gefnogi fi wrth weithio."

Yn ôl yr elusen Gingerbread, sy’n cefnogi rhieni sengl yn y DU, mae 90% o rieni sengl yn fenywod ac yn 39 oed ar gyfartaledd.
Mae 29% o deuluoedd rhieni sengl yn byw mewn tlodi o'i gymharu â 14% o deuluoedd gyda dau riant, yn ôl data gan Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU.
Yn sgil hynny mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio systemau lles er mwyn lleihau tlodi plant a chefnogi teuluoedd rhiant sengl.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "benderfynol o leihau tlodi plant ym mhob rhan o’r DU" ac yn bwriadu cyhoeddi "strategaeth tlodi plant uchelgeisiol".
'Cryfder mam'
Dywedodd Hanna ei bod wedi cael ei hysbrydoli gan "gryfder" ei mam i helpu mamau sengl yn Uganda.
Mae nifer y mamau sengl rhwng 18 a 35 oed yn Uganda wedi cynyddu o 20% i 30%, yn ôl ymchwil gan swyddfa ystadegau'r wlad.
Yn ystod ei hamser yno, fe wnaeth Hanna helpu Dalison, 27 oed, sy'n fam i ferch fach ddwy oed o'r enw Alyshia.
"Pan o’n i’n iau oedd mam yn gwneud popeth i fi, roedd hi’n coginio, garddio, talu’r biliau," meddai.
"Nath o ddangos i fi bod merched yn gallu neud bob dim a bod yn annibynnol, a fel person breintiedig nes i gymryd y cryfder yma gan fy mam i fynd i Uganda i weithio efo merched llai breintiedig.
"Felly, i ddweud y gwir, annibyniaeth mam nath fy ysbrydoli fi a phan gyrhaeddais i roedd y merched yno’n andros o gryf jyst fel mam fi."

Roedd Hanna yn cefnogi prosiect yr elusen Women’s Conservation for Generations Foundation sy'n ceisio cefnogi menywod yno.
"Mae gorllewin Uganda yn tourist hotspot achos yn fan 'na mae’r gorilla trekking," meddai.
"Er hyn maen nhw’n dal i straffaglu i gael incwm cyson, yn enwedig mamau sengl, ac yn enwedig yn ystod y tymor glawiog.
"Ond be ddysges i yna oedd bod y merched mor frwdfrydig a llawn cymhelliant ac yn cael cynnydd huge mewn hyder pan maen nhw’n ennill pres eu hunain."

Yn ystod ei hamser yno, fe wnaeth Hanna helpu Dalison ac Alyshia i ddechrau caffi ei hunain.
"Roedden nhw’n gwneud bwyd eu hunain – mêl, samosas, coffi, creision – ac roedden ni’n gwneud pethau fel pacio’r creision, gwneud y bwyd, helpu efo’r wefan ac aesthetig y caffi," meddai.
"Ac yn yr hirdymor, fydd y prosiect yma yn cyflogi mamau sengl eraill o gwmpas yr ardal er mwyn sicrhau bod pawb yn ffynnu."
'Gwerthfawr'
Yn ôl Hanna, roedd y profiad o helpu Dalison ac Alyshia yn "werthfawr".
Er hynny mae hi’n annog pobl sy’n dymuno gwirfoddoli dramor i beidio â gwneud hynny am y rhesymau anghywir.
"Diffyg addysg ydi’r broblem – dw i’n gweld pobl oedran fi yn mynd i Tanzania am wythnos neu bythefnos a threulio dau ddiwrnod mewn ysgolion," meddai.
"Ond dydyn nhw ddim wir yn gwneud dim byd, ella bod nhw’n marcio chydig o lyfre a tynnu lluniau efo’r plant a rhoi nhw ar y wê.
"Dwi’n meddwl mae lot o voluntourism fel rhyw fath o berfformiad ac os fysa’r cyfryngau cymdeithasol ddim yn bodoli falle sa pobl ddim yn mynd o gwbl.
"Felly, mae'n bwysig i drio neud wbath am amser hir, o leiaf mis – o’n i wir isho aros yn Uganda am hirach, achos o’n i’n teimlo bo fi wedi gwneud gwahaniaeth."

Er ei bod nôl yng Nghymru erbyn hyn, mae Hanna yn parhau i gefnogi’r prosiect drwy godi arian a rhoi'r wefan at ei gilydd.
Mae hi hefyd yn gwneud yn fawr o'i wythnosau olaf yn byw adref gyda'i mam, cyn iddi fynd i'r brifysgol yn Glasgow ym mis Medi.
"Dwi’n mor ddiolchgar bo’ fi wedi cael fy magu gen hi, mae hi wastad wedi cefnogi fi mewn bob ffordd – hi ydi fi mywyd," meddai.
'Angen amddiffyn teuluoedd rhiant sengl'
Mae'r elusen Gingerbread yn gweithio ar ddwy brif ymgyrch i amddiffyn teuluoedd rhiant sengl, meddai ei phennaeth ymgysylltu Vaila McLure.
"Mae un yn ymwneud â diwygio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, ac yna mae llall yn ymwneud â diwygio Credyd Cynhwysol," meddai.
"Byddai'r ddau ohonyn nhw yn lleihau tlodi plant, sef yr hyn yr ydym am ei weld yn digwydd yn y pen draw, oherwydd byddai hynny'n caniatáu i blant gael ansawdd bywyd gwell a chyflawni eu potensial."
O ran y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, mae'r elusen eisiau sicrhau bod y taliadau yn cael eu talu'n llawn ac ar amser.
Fe aeth ymlaen i egluro bod Llywodraeth y DU eisoes wedi cynnig newidiadau i'r ffordd mae taliadau Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael eu gwneud.
"Rydym yn falch iawn bod y llywodraeth yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau o fewn y system, ond yn amlwg rydym am wneud yn siŵr bod y newidiadau hyn yn cael eu gwneud yn y ffordd gywir," meddai.
Yna, o ran Credyd Cynhwysol, mae'r elusen yn galw am ddileu'r cap budd-daliadau, gan gynnwys y cap budd-dal dau blentyn.
"Mae'r cap budd-daliadau wir yn effeithio ar rieni sengl, oherwydd eu bod yn wynebu costau tai uwch," meddai.
"Ac yn amlwg mae'r gost o fagu plant yn ddrud iawn, a dim ond un oedolyn ydyw yn y bôn.
"A dyna'r broblem gyda'r polisïau llywodraeth, dydyn nhw ddim yn cydnabod y ffaith mai dim ond un oedolyn yw rhieni sengl sy'n gorfod cario'r holl gyfrifoldeb ariannol a'r cyfrifoldeb emosiynol o fagu plant."
'Penderfynol o leihau tlodi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "benderfynol o leihau tlodi plant ym mhob rhan o’r DU".
"Rydym eisoes wedi cynyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol, wedi cefnogi 700,000 o’r teuluoedd tlotaf drwy gyflwyno Cyfradd Ad-dalu Teg ar ddidyniadau Credyd Cynhwysol ac wedi cyhoeddi hwb i gymorth argyfwng yng Nghymru yn yr Adolygiad Gwariant.
"Byddwn yn cyhoeddi strategaeth tlodi plant uchelgeisiol yn ddiweddarach eleni i sicrhau ein bod yn cyflawni mesurau wedi’u hariannu’n llawn sy’n mynd i’r afael ag achosion strwythurol a gwraidd tlodi plant ledled y wlad."