Y Gyllideb: Beth allwn ei ddisgwyl gan y Canghellor ddydd Mercher?

Rachel Reeves yn cyflwyno'r Gyllideb ym mis Hydref 2024

Fe fydd Rachel Reeves yn cyflwyno ei Chyllideb ddydd Mercher wedi dyfalu sylweddol diweddar am pa drethi y bydd hi'n eu codi i gadw'r blaidd o ddrws y Trysorlys.

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n aros yn eiddgar am unrhyw gyhoeddiad o Lundain fydd yn effeithio ar etholwyr yma dros Glawdd Offa, gydag etholiad Senedd Cymru ar y gweill y flwyddyn nesaf.

Pa gamau felly y gallai'r Canghellor eu cyhoeddi wrth iddi geisio llenwi'r twll yn y pwrs cyhoeddus fel nad oes yn rhaid iddi ofyn am fwy o arian gan drethdalwyr i wneud hynny? Dyma'r hyn all fod ar y gweill gan y Canghellor yfory:

Treth incwm: Ar ôl cynhadledd i'r wasg gyda'r bwriad o baratoi'r wlad ar gyfer cynnydd mewn treth incwm a fyddai wedi mynd y groes i faniffesto ei phlaid, rhoddodd Ms Reeves y gorau i'r syniad yn ddiweddarach. O fod wedi gwneud hynny, hi fyddai wedi bod y Canghellor cyntaf mewn hanner canrif i gymryd y cam yma.

Cafodd y mesur ei ollwng ar ôl i'r Trysorlys dderbyn rhagolygon gan y corff gwarchod cyllidebol nad oedd y sefyllfa mor ddifrifol ag yr ofnwyd yn wreiddiol.

Yn lle hynny, fe allai hi nawr ddewis ymestyn rhewi'r trothwy treth incwm a fyddai, pe bai hi hefyd yn cadw trothwyon yswiriant gwladol ar eu cyfradd bresennol, yn codi tua £8.3 biliwn y flwyddyn i'r Trysorlys yn 2029/30.

Cap ar fudd-daliadau dau blentyn: Wrth iddi wynebu pwysau gwleidyddol cynyddol, mae disgwyl i Ms Reeves ddileu’r terfyn sy’n cyfyngu credyd treth plant a chredyd cyffredinol i’r ddau blentyn cyntaf yn y rhan fwyaf o gartrefi.

Mae amcangyfrifon yn amrywio o ran faint fyddai hyn yn ei gostio, gyda’r Resolution Foundation yn amcangyfrif tua £3.5 biliwn erbyn diwedd y Senedd hon (2029/30), tra bod gan y Child Poverty Action Group a Sefydliad Joseph Rowntree amcangyfrifon is o tua £3 biliwn erbyn diwedd y cyfnod yma.

Codi treth ar gartrefi mwyaf gwerthfawr: Fe allai treth newydd ddod ar rai o'r cartrefi mwyaf gwerthfawr, sydd wedi cael ei ddisgrifio gan rai fel y "dreth ar blastai".

Byddai'r cam yn golygu ailbrisio rhai o'r tai mwyaf gwerthfawr ar draws bandiau treth y cyngor F, G a H ac yn taro 100,000 ohonynt gyda gordal newydd, gyda'r trothwy'n dechrau ar £2 filiwn.

'Aberth cyflog': Gallai'r Canghellor gyflwyno terfynau ar faint y gall gweithwyr ei roi yn eu pensiynau o dan gynlluniau aberthu cyflog cyn iddo ddod yn destun yswiriant gwladol.

Mae adroddiadau'n awgrymu y gallai Ms Reeves osod cap o hyn ar £2,000 y flwyddyn, a fyddai'n lleihau faint y mae pobl yn ei roi yn eu potiau pensiwn ac yn ergyd i gyflog net y rhai sy'n defnyddio'r cynllun i aros mewn band treth is.

Treth ar gerbydau trydan: Y gred yw bod y Canghellor yn ystyried treth o 3c y filltir ar gerbydau trydan wrth iddi geisio amddiffyn refeniw wrth i bobl symud i ffwrdd o gerbydau petrol a diesel – a’r dreth tanwydd sy’n dod ag arian i mewn i’r Trysorlys.

Cymhorth ​​i brynwyr cerbydau trydan: Mae disgwyl iddi ychwanegu £1.3 biliwn at grant sy’n gostwng pris cerbyd trydan o hyd at £3,750 fel rhan o becyn a fydd hefyd yn gweld £200 miliwn yn mynd tuag at gyflwyno pwyntiau gwefru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.