Ceredigion: Cofio 100 mlynedd ers i long stêm suddo a lladd 12 o bobl
Ceredigion: Cofio 100 mlynedd ers i long stêm suddo a lladd 12 o bobl
Fe fydd cymuned Aberporth a disgynyddion capten llong stêm a suddodd union 100 mlynedd yn ôl yn dod ynghyd yr wythnos hon i gofio'r drasiedi.
Bu farw 12 o bobl pan suddodd yr SS Sutton o Lerpwl rhwng Aberporth a Mwnt mewn tywydd garw.
Roedd y llong yn cludo plwm a sinc i borthladd Antwerp pan ddigwyddodd y drasiedi.
Penderfynodd ymchwiliad swyddogol ym mis Mehefin 1926 bod y llong wedi suddo am fod y cargo wedi symud ar ei bwrdd.
Roedd y capten, William Terretta, ar ei fordaith olaf cyn ymddeol i weithio ar gamlesi Manceinion. Bu farw Capten Terretta, ei wraig Margaret, a'i ferch Eleanor oedd yn 18 oed.
Roedd nifer yn feirniadol o'r ffaith na ddaeth y bad achub a gwylwyr y glannau i gynorthwyo'r criw o Runcorn, er bod golau wedi cael ei weld allan ar y môr yn ystod y storm. Roedd tad Dilwyn Jenkins, Llewelyn, yn un o dri brawd, welodd olau o'r llong ar y môr.
'Storom haerllug'
"Roedden nhw wedi gweld rhyw olau, ac fel plant heb wneud llawer o sylw, ond wedyn y diwrnod ar ôl, mi ddaeth y drychineb i glawr pan aethon nhw lawr i chwilio beth oedd wedi ei olchi lan. Roedd hi'n storom haerllug."
Daeth y tri brawd o hyd i gorff morwr o'r enw William Booth ar draeth y Gwyrddon.
"Cafon nhw afael arno yn yr ogof ar y traeth. Roedd e wedi bod yna ers cryn dipyn o oriau, bron diwrnod cyfan."
Roedd Booth wedi marw o effeithiau'r oerfel yn hytrach na boddi.
Daethpwyd o hyd i gorff Mrs Terretta ar draeth Penbryn ar fore'r 30 Tachwedd. Roedd hi wedi boddi.
Ym mis Mawrth, 1926, fe ddaethpwyd o hyd i olion corff arall. Y gred yw mai corff merch y Capten, Eleanor, ydoedd.
Am 18:00 nos Iau, fe fydd pobl Aberporth yn ymgynnull ar lan y môr i gynnau ffagl i gofio am y 12 a fu farw, union gan mlynedd yn ddiweddarach.
Fe fydd Côr Meibion Blaenporth yn canu Dragwyddol Dad, Alluog Iôr, emyn sydd yn gysylltiedig â'r byd morwrol, ac fe fydd enwau'r criw ac aelodau teulu'r Terretta yn cael eu darllen.
Cofio
Fe fydd disgynyddion y Capten Terretta o Runcorn yn bresennol.
Fe fydd Dilwyn Jenkins yn rhan o'r seremoni i goffau'r 12 wnaeth farw, ac mae'n teimlo yn gryf bod angen cofeb barhaol i griw'r SS Sutton.
"Mae'n bwysig bod ni yn cofio amdanyn nhw," meddi wrth Newyddion S4C.
"Mae rhaid cofio bod 12 bywyd wedi cael eu colli, a rhai ifanc yn eu canol nhw. Mae angen rhoi rhywbeth yn barhaol i gofio amdanyn nhw i'r cenedlaethau sydd i ddod i gofio bod y fath drasiedi wedi digwydd a gobeithio na fydd yn digwydd byth eto."
Mae'r Cynghorydd lleol, Clive Davies, yn cytuno bod angen cofeb: "Bydd hi'n emosiynol iawn. Dwi'n gobeithio y bydd yna gofeb.
"Mae yna grŵp hanes gweithgar iawn yma, yn cydweithio gyda'r Cyngor Cymuned, i greu rhywbeth fel bod pobl yn cofio hyn a gobeithio na fydd hyn yn digwydd eto," meddai.
Mae'r newyddiadurwr a'r hanesydd lleol Mike Lewis wedi bod yn ymchwilio i'r hanes ers blynyddoedd.
Mae'n dweud bod yna ddicter yn lleol ar y pryd na chafodd y bad ei alw i geisio achub criw'r SS Sutton.
"Fe ddaeth dwy gymuned forwrol, Aberporth yng Ngheredigion a Runcorn ar Lannau Mersi ynghyd mewn galar a dicter," meddai.
"Roedd swydd gwyliwr y nos yn Aberporth wedi cael ei dileu ychydig cyn y ddamwain. Fe fyddai'r gwyliwr wedi medru gwneud galwad ffôn i alw am gymorth gwylwyr y glannau naill a'i o Ben Cemaes neu o Gei Newydd."
Arddangosfa
Mae Max Thom o Hanes Aberporth wedi trefnu arddangosfa am hanes yr SS Sutton yn neuadd y pentref, Aberporth: "Mae hi'n stori drist iawn. Mae hi'n ymddangos bod yna gyfres o fethiannau wedi bod,"meddai.
"Fe newidiodd y tywydd, roedd y math o gargo yn ffactor mawr a thrafferthion gyda gwylwyr y glannau. Roedd y môr yn arw iawn.
"Roedd yr amodau yn yr ardal yn wael iawn, gyda gwynt yn chwythu o'r gogledd orllewin. Fe wnaeth morwyr Aberporth alw am ymchwiliad swyddogol am ei bod nhw mor flin gyda'r hyn oedd wedi digwydd. Yn sgil hynny, fe godwyd y mater yn Nhŷ’r Cyffredin."
Fe awgrymodd yr ymchwiliad swyddogol i'r drasiedi y dylai bob llong debyg gario fflêr argyfwng yn y dyfodol.