Gill: Eluned Morgan yn ceisio atal 'ymyrraeth wleidyddol' cyn etholiad y Senedd

Nathan Gill ac Eluned Morgan

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod ei llywodraeth yn gweithredu er mwyn atal "unrhyw ymyrraeth wleidyddol" adeg etholiad y Senedd fis Mai.      

Nododd Eluned Morgan hynny tra'n siarad yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, yn ystod trafodaeth am weithredoedd cyn arweinydd plaid Reform UK yng Nghymru, Nathan Gill.  

Cafodd Gill ei ddedfrydu i 10 mlynedd a chwech mis o dan glo yr wythnos diwethaf, ar ôl cyfaddef iddo gymryd llwgrwobrwyon gan Rwsia.  

Plediodd y cyn wleidydd 52 oed o Ynys Môn yn euog i wyth cyhuddiad yn Llys yr Old Bailey yn Llundain.  

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, mynegodd gwleidyddion eu dicter, a dywedodd y Prif Weinidog fod gweithredoedd Gill yn "gwbl annerbyniol".

Ychwanegodd ei bod yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, y gwasanaethau diogelwch, yr heddlu, Comisiwn y Senedd a Thasglu Gwarchod Democratiaeth er mwyn atal unrhyw ymyrraeth.  

Dywedodd ei bod hi eisiau sichrau aelodau'r Senedd bod ei llywodraeth yn cymryd camau er mwyn atal "y math yna o ymyrraeth" yn etholiad y Senedd fis Mai.

'Risg'

Tra'n siarad yn y sesiwn holi, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: "Rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy nheimladau i ynghylch gweithredoedd cyn arweinydd Reform yng Nghymru, cyn aelod o'r Senedd hon, a gafodd ei ddedfrydu yr wythnos diwethaf i garchar am 10 mlynedd a hanner   am gymryd llwybrwobrwyon drwy areithio o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop 

"Mae'n amlwg iawn fod Reform yn risg i ddiogelwch cenedlaethol. 

"Rydym angen gwarchod ein democratiaeth a'n gwlad rhag ymyrraeth a bygythiadau gan Rwsia." 

Dywedodd Eluned Morgan y dylai ymchwiliad llawn gael ei gynnal i "ymyrraeth Rwsia yng ngwleidyddiaeth Prydain".

"Mae angen i ni fod ar ein gwyliadwraeth yn y maes hwn," meddai. 

Arweiniodd Nathan Gill ymgyrch Reform UK adeg etholiad y Senedd yn 2021. Nid yw'n aelod o'r blaid bellach. 

Tra ar ymweliad â Llandudno ar gyfer rali nos Lun, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage na fyddai'n cynnal ymchwiliad mewnol i ddylanwad posibl Rwsia yn rhengoedd Reform UK. 

Ond ychwanegodd bod angen ymchwiliad ehangach i ystyried ymyrraeth Rwsia a Tsieina yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.