Heddlu’n rhoi teyrnged i gwnstabl o Lanelli a fu farw yn ardal Bryste
Mae Heddlu De Cymru wedi rhoi teyrnged i un o’u swyddogion ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod yn Lloegr.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Llun bod corff Rehaan Akhtar, 28 oed, wedi ei ddarganfod mewn dŵr.
Cafodd y cwnstabl ei weld ddiwethaf ym Mryste yn ystod oriau man fore Sul.
Yn ôl yr heddlu, cafodd ei weld toc wedi 01.00 yng nghanol y ddinas ger adeilad yr Arnolfini, sef canolfan gelf.
Roedd Rehaan allan gyda'i ffrindiau.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi dechrau gweithio iddyn nhw fel swyddog cymorth cymunedol ym mis Medi 2023.
Aeth yn ei flaen i hyfforddi fel Swyddog Heddlu ac ymunodd â'r tîm yn Abertawe fel Cwnstabl Heddlu ym mis Medi 2023.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan ei fod wedi ei “synnu a'm tristáu” o glywed am farwolaeth Rehaan.
“Mae ein calonnau'n mynd allan at deulu a ffrindiau Rehaan, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi,” meddai.
"Yn ystod ei gyfnod gyda Heddlu De Cymru, gwasanaethodd ein cymunedau gyda balchder a phroffesiynoldeb fel SCCH a Swyddog Heddlu.
“Rwy'n gwybod ei fod yn cael ei barchu a'i hoffi'n fawr gan ei gydweithwyr a'r rhai y cyfarfu â nhw fel rhan o'i ddyletswyddau dyddiol.
"Ar ran Heddlu De Cymru, rwy'n cynnig ein cydymdeimlad diffuant i bawb yr effeithiwyd arnynt gan ei farwolaeth."