Cyn-aelod o staff Heddlu Dyfed-Powys yn osgoi carchar am gam-drin ei gyn-bartner mewn modd ‘di-dostur’

Heddlu Dyfed Powys

Mae dyn o ardal Llandysul yng Ngheredigion a fu’n gweithio fel gweithredwr teledu cylch cyfyng (CCTV) i Heddlu Dyfed-Powys wedi osgoi carchar am gam-drin ei gyn-bartner mewn modd “di-dostur”.

Roedd Russell Hasler, 42 oed, yn gweithio i’r llu pan gafodd ei arestio gan swyddogion o’r Adran Safonau Proffesiynol ym mis Hydref 2023.

Ymddiswyddodd fis yn ddiweddarach, ac wedi hynny, cafodd ei gyhuddo o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol tuag at ei gyn-bartner.

Cafodd ei gyhuddo hefyd o droseddau diogelu data a chamddefnyddio cyfrifiaduron.

Cyfaddefodd Hasler i’r drosedd diogelu data, ond fe wadodd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, cyn newid ei ble ddeuddydd cyn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.

Fe gafodd y cyhuddiad o gamddefnyddio cyfrifiaduron ei ollwng.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Llun i 17 mis o garchar wedi’i ohirio am 18 mis.

Bydd yn rhaid iddo wneud 180 awr o waith di-dâl; mynychu 20 diwrnod o weithgarwch adsefydlu, a thalu dirwy o £500. Mae hefyd yn destun gorchymyn atal am bum mlynedd.

‘Poen’

Mewn datganiad, disgrifiodd y dioddefwr effaith y cam-drin a wynebodd, gan ddweud fod yna “adegau pan oedd y boen emosiynol, poenydio a natur ddidostur y cam-drin mor llethol, roeddwn i’n cwestiynu a allwn barhau”.

“Mae’r cam-drin wedi effeithio ar bob rhan o’n bywydau,” meddai.

“Ni ellir dadwneud y difrod a achoswyd, ac mae’r boen rydyn ni wedi dioddef yn rhywbeth rydyn ni’n parhau i fyw gydag ef bob dydd.”

Dywedodd swyddog yr achos, y Ditectif Gwnstabl Simon Reynolds o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys: “Rydyn ni’n croesawu’r ple euog a’r ddedfryd a roddwyd gan y llys.

“Ni ddylai unrhyw un deimlo ofn na chael eu rheoli yn eu bywydau eu hun, ac rwyf eisiau canmol y dioddefydd am ei dewrder wrth o ddod ymlaen ac am barhau i gefnogi’r ymchwiliad hwn gan Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae gan ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol effaith ddinistriol ar ddioddefwyr, ac mae’r ffaith bod Russell Hasler yn aelod o staff yr heddlu adeg y troseddu, yn fradychiad difrifol o’r safonau mae’r cyhoedd yn eu disgwyl.

“Dylai’r ddedfryd a roddwyd heddiw helpu i sicrhau’r cyhoedd bod troseddu gan weithwyr heddlu, er yn anghyffredin, yn cael ei drin yn ddifrifol iawn gan ymchwilwyr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.