Dyn 20 oed fu farw ar yr Wyddfa wedi ffonio ei deulu i ddweud ei fod ar goll

John Aravinth

Roedd dyn 20 oed fu farw ar yr Wyddfa wedi ffonio ei deulu i ddweud ei fod ar goll cyn disgyn oddi ar y mynydd, clywodd cwest ddydd Mawrth.

Roedd John Aravinth, myfyriwr meddygol o Orllewin Sussex yn Lloegr, wedi bod yn cerdded copa uchaf Cymru gyda'i deulu ym mis Mai.

Penderfynodd ei dad a'i chwaer droi 'nôl oherwydd y gwynt a'r glaw.

Ond fe wnaeth Mr Aravinth barhau ar hyd llwybr Llanberis a cheisio cyrraedd y copa ar ei ben ei hun.

Fe wnaeth o ddisgyn mwy 'na 150 metr a dioddef anaf i'w ben.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ei fod wedi ffonio ei dad a bod yr heddlu wedi derbyn dau alwad wnaeth fethu gan Mr Aravinth ddwy awr yn ddiweddarach.

Roedd Mr Aravinth yn "ofidus" ac yn gofyn am gymorth tîm achub mynydd.

Roedd yn "hynod fyr ei olwg" a hefyd wedi cael anawsterau gweld oherwydd bod ei sbectol wedi niwlio.

Fe wnaeth y cwest hefyd glywed nad oedd ateb gan Mr Aravinth pan oedd yr heddlu wedi ceisio ei ffonio a danfon negeseuon iddo.

Dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson ei fod yn debygol ei fod wedi cyrraedd copa'r Wyddfa a'i fod "wedi drysu" wrth ddringo i lawr y mynydd.

Llithro

Cafodd corff John Aravinth ei ddarganfod gan griw mewn hofrennydd gwylwyr y glannau.

Dywedodd Elfyn Jones o dîm achub mynydd Llanberis fod y corff wedi'i ddarganfod yng Nghwm Glas.

Roedd yn credu bod Mr Aravinth wedi gwyro oddi ar y llwybr tuag at gopa Garnedd Ugain.

"Mae Llwybr Llanberis yn cael ei ystyried fel y llwybr hawsaf i fyny'r Wyddfa," meddai Mr Jones.

"Fodd bynnag, mewn tywydd gwael mae rhai cerddwyr yn dal i lwyddo i golli'r llwybr.

“Mae naill ai wedi ceisio cerdded i lawr ceunant neu gallai fod wedi llithro neu gael ei chwythu oddi ar y grib.”

Roedd mwy na' 35 o achubwyr yn rhan o ymdrech chwilio hyd 18 awr mewn tywydd “difrifol a pheryglus” i ddod o hyd iddo, meddai.

Roedd gwyntoedd cryfion o 78mya ar y copa'r diwrnod hwnnw ac roedd yr amodau tywydd yn "erchyll", ac roedd achubwyr yn wynebu risg o gael eu chwythu oddi ar grib wrth geisio cyrraedd corff Mr Aravinth.

Dywedodd y crwner: “Roedd John yn amlwg yn eithriadol o glyfar. O'r hyn ydw i wedi ei glywed, fe fydd y byd yn lle tlotach hebddo .

“Rwy’n cydnabod yr ymdrechion sylweddol gan y tîm achub mynydd a gwasanaethau brys eraill mewn sefyllfa anodd a heriol iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.